Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn nodweddu ei grefydd; ac eto gwelwyd ef ar adegau yn cael ei orchfygu. i fesur gan ei deimladau. Yr oedd yntau, ni a gredwn, yn Gristion cywir er pob hynodrwydd a berthynai iddo.

Cyn dwyn y benod hon i derfyniad goddefir i ni wneuthur cyfeiriad byr at ein rhieni. Buont yn aelodau cyson yn Aberllefenni o 1852 hyd eu marwolaeth. Brodor o Drawsfynydd oedd Griffith Ellis, ond gadawodd y gymydogaeth hono yn lled ieuanc. Yr oedd yn ngwasanaeth John Jones, Esgair Goch, Pennal, tad y Parchedig Evan Jones, Caernarfon, yn ddwy ar bymtheg oed; ar pryd hwnw, pan oedd y Parchedig Dafydd Rolant, y Bala, yn Mhennal yn pregethu yr arosodd yn y seiat. Yr oedd y gweinidog yn adnabyddus o hono yn Nhrawsfynydd, a phan y gwelodd mai efe oedd wedi aros dywedodd yn ei ddull priodol ei hun : Hylo! Guto bach: a'i ti sydd yma? Tirion iawn ydir Brenin mawr onide, yn showio plant tlodion fel ti a minau i'r seiat. Symudodd o Bennal i Lanwrin, ac oddiyno drachefn wedi ei briodas i Aberllefenni. Bu ef a'i briod am chwe blynedd yn Tanyrallt. Corris; ond yn 1852 dychwelasant drachefn i Aberllefenni, lle y treuliasant weddill eu hoes.

Yn Nghorris y ganwyd ac y magwyd Margaret Ellis, ac yr oedd ei mam, Nel Wmphra, yn un o'r aelodau hynaf yn Rehoboth am rai blynyddoedd cyn ei marwolaeth, Hydref 12 1851 Dygwyd ein mam i fyny yn grefyddol o'i mebyd; a chafodd ei chynal yn ddigwymp hyd y diwedd. Bu farw Griffith Ellis, Medi 13, 1858, yn 44 mlwydd oed; a bu farw Margaret Ellis, Medi 23, 1875, yn 63 mlwydd oed.

Naturiol fyddai i ni gymeryd gwedd ffafriol ar eu cymeriadau; ond ni ddymunem ddywedyd dim am danynt y byddai yr amheuaeth lleiaf yn ei gylch gan neb a'u hadwaenent. Ni chafodd y naill na'r llall ddiwrnod o ysgol ddyddiol erioed; ac ni ddysgasant ysgrifenu na darllen ysgrifen tra y buont byw. Yr oeddynt ill dau o alluoedd naturiol gweddol gryfion, ac ill