Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dau yn meddu cof gafaelgar. Teimlent werth addysg trwy eu hamddifadrwydd eu hunain o honi; a gwnaethant yn ewyllysgar bob aberth er rhoddi yr addysg oreu o fewn eu cyraedd i'w plant. Yr oeddynt yn edmygwyr mawr ill dau ar bregethwyr y Methodistiaid ni wrandawsant ond ychydig ar neb arall oddieithr yn mlynyddau diweddaf eu hoes; ac wrth ystyned hyny digon hynod oedd traddodiad pregeth angladdol ar farwolaeth Griffith Ellis gan y Parchedig William Rees, yr hwn oedd ar y pryd yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn y gymydogaeth. Buont ill dau yn Sassiwn y Bala rai troion; ac yr oedd eu hadgofion am yr hen bregethwyr yno y pethau melusaf y gallwn ni eu cofio yn ein dyddiau boreuaf. Y prif bregethwr yn marn y naill ar llall oedd Henry Rees. O dan ei weinidogaeth ef yn ddiau y teimlodd G. E. y pethau grymusaf yn ei oes. Un tro yr oedd yn myned o'r maes mewn Sassiwn yn Nolgellau, wedi bod yn gwrando arno yn pregethu, pan y cododd i fyny ei law yn nghanol y dyrfa, ac y gwaeddodd, Ddemir byth mono i. Nid oedd ei edmygedd o Mr. Bees yn llawer llai nag addoliad. Yr ydym yn cofio yn dda mai y peth mawr a addewid i ni yn wyth mlwydd oed, pan y cawsom y braint o fyned gydag ef i Sassiwn yn Nolgellau am y tro cyntaf erioed, oedd gweled a chlywed Henry Rees ; ac y mae yr olwg gyntaf a gawsom arno yn dyfod i mewn i gapel Salem mor fyw yn ein meddwl y foment hon a dim a welsom y flwyddyn ddiweddaf. Safai eraill yn uchel iawn yn meddwl G. E.; ond y tywysog yn ddiau oedd "Henry Rees".

Yr oedd yn hynod hoff hefyd o emynau Williams, Pantycelyn, Anne Griffiths, ac Edward Jones, Maesyplwm. Credwn ei fod yn medru allan bob penill cyhoeddedig o waith y ddau ddiweddaf. Ar hirnos gauaf, ein difyrwch yn fynych fel teulu fyddai, "adrodd penillion". Byddai ein mam, ein chwaer, a ninau ar y naill ochr, ac yntau ei hun ar yr ochr arall; ac ni chaniateid iddo ef adrodd yr un penill y gallai ein chwaer a