Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/184

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ninau ei adrodd; ond byddai ei ystorfa yn llawn ymhell ar ol dyhysbyddu y blaid arall.

Nid ydym yn gwybod i neb erioed amheu crefydd ein rhieni. Gwyddom nad oeddynt yn berffaith o gryn lawer; ond gadawsant dystiolaeth yn nghydwybod y rhai a'u hadwaenent eu bod yn meddu gwir dduwioldeb. Mae ein dyled ni yn fawr iddynt, an serch yn ddwfn at eu coffadwriaeth. Anwyl yn ein golwg yw y llanerch lle y gorweddant yn mynwent Rehoboth

PENOD XI

SYLWADAU TERFYNOL

WRTH ddwyn ein nodiadau i derfyniad, cymerwn ryddid i ychwanegu ychydig sylwadau cyffredinol ar hanes a nodweddau Methodistiaeth yr ardaloedd hyn am y can mlynedd diweddaf, gan ddwyn i mewn rai ffeithiau nad oeddynt yn perthyn yn briodol i faterion y penodau blaenorol.

Ar derfyn Hanes dechreuad a chynydd y Trefnyddion Calfinaidd yn Nghorris, Meirion, yn y Drysorfa, 1840, gan Mr. Daniel Evans, ceir Olysgrif fel y canlyn:—

Gan mai ymdeithydd ydwyf fi yma, a fy mod wrth ymdaithwedi gweled ychydig o wahanol eglwysi, hwyrach y goddefir i mi ddweyd yn mhellach ychydig o'r hyn a welais ac a glywais am y lle hwn.

1 Clywais mai golwg isel iawn fu ar achos yr Arglwydd yn Nghorris am y deugain mlynedd cyntaf; ond wele ef yn awr yn