Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei dyrchafedig goruwch y bryniau, a lluoedd yn dylifo ato. Gan hyny, nid rhaid i neb, yn un man, anobeithio am lwyddiant teymas yr Emanuel, pa mor isel bynag y bo, tra y bo hi yn uchel yn addewidion y Gair.

2 Clywaf a gwelaf fod cariad brawdol yn dlws gwerthfawr yn eu golwg, ac ymdrechant i'w gadw. Mae ganddynt gyfeisteddfod a wneir i fyny o'r blaenoriaid, ac 8 neu 10 o'r brodyr mwyaf amlwg mewn gwybodaeth a baru yn yr eglwys, i eistedd ar bob achos cyn ei gychwyn; ac yna ymosodant ato oll fel un gŵr

3 Maent yn ddiwyd a ffyddlon yn dwyn eu plaut i fyny yn yr eglwys. Egwyddorir hwynt, ac ymofynir am destynau a phenau y pregethau am yr wythnos a basiodd, bob cyfarfod eglwysig. Maent wedi cael eneidiau yn wobr am eu gwaith, a diau y cânt lawer eto. A gymeradwywyd gan

JOHN JONES, Penyparc.

Cyfeiriwyd eisoes at arafwch cynydd methodistiaeth yn Nghorris hyd 1819; ac nid oes genym yma nemawr i'w ychwanegu. Bychan iawn yn ddiau fu cynydd y boblogaeth yn y cyfnod hwn; yn wir, gwelsom fod poblogaeth y plwyf yn llai yn 1811 nag ydoedd yn 1801; ond nid ydyw bychander y boblogaeth yn rhoddi cyfrif digonol am arafwch cynydd methodistiaeth. Bu yr erledigaeth arnynt yn ddiau yn anfantais iddynt am flynyddoedd; ac ni ddigwyddodd, tua'r dechreu, unrhyw amgylchiad pwysig i roddi i Fethodistiaeth safle yn y gymydogaeth. Trwy ymweliadau achlysurol hen gynghorwyr cyffredin y rhoddwyd cychwyniad i'r achos yn y lle. Gwelsom fod Mr. Charles wedi rhoddi sylw i'r ardal, wedi anfon iddi fwy nag un o'i ysgolfeistriaid am dymhorau byrion, ac wedi ymweled ei hunan â hi rai troion; a diau mai ei gysylltiad ef fu gymydogaeth fu yr amgylchiadau mwyaf manteisiol i ddyrchafiad yr achos i sylw ynddi. Yr oedd y cychwynwyr yn ddiau mor barchus o ran eu sefyllfa a neb o'r ardalwyr. Yr oedd Jane Roberts yn wraig y Rugog, ffarm o faintioli cymedrol; Dafydd Humphrey a'i briod yn byw yn Abercorris, tyddyn arall o bwysigrwydd cyfartal i unrhyw dyddyn