hunain oddiwrthi y manteision a enillwyd mewn rhanau eraill o’r deyrnas.
Ymhell wedi dechreu y ganrif bresenol nid oedd yn Nghorris un math o fasnachdy. Nis gellid cael cymaint ag wns o dê yn nes na Machynlleth; ac nid oedd tafarn ychwaith yn nes na Minffordd hyd agoriad y chwarelau, ryw driugain mlynedd yn ol. Nid oedd, yn wir, yn nechreu y ganrif ond dau dŷ rhwng yr hen dŷ a elwid y Pentref (nid oes dim o’i olion i’w cael er’s blynyddoedd bellach) gerllaw y bont yn ngwaelod y pentref presenol, ac Abercorris (sydd yntau wedi myned tan gyfnewidiad), sef y ddau dŷ y bu y brodyr John a Harri Rowland yn byw ynddynt am gynifer o flynyddoedd. Y pryd hwnw gelwid y naill yn "dŷ Edward Rowland” (tad y brodyr uchod), a’r llal yn "dŷ Marged Miles." Yn achlysurol byddai gŵr o’r enw Edward Jones, Erw lepa, yn gwerthu ychydig geirch; ond ar adegau o brinder (y rhai nad oeddynt anaml) gorfodid y tlodion i gyrchu defnydd eu lluniaeth o bellder mawr. Adroddir am John Richard, un o’r hen bererinion y crybwyllir am dano mewn penod ddilynol, yn gorfod myned i le yn agos i’r Abermaw ar adeg felly i geisio ychydig o rûg,—pellder o bymtheg neu ddeunaw milldir.
Tua’r adeg uchod isel iawn hefyd oedd agwedd foesol a chrefyddol yr ardalwyr. Nid oedd meddwdod yn bechod cyffredin yn eu mysg: yr oeddynt yn rhy dlodion i fod yn feddwon. Ond yr oedd eu hanwybodaeth yn gaddugawl, eu hiaith yn isel, llwon a rhegfeydd yn gyffredin yn eu phth, a’u caledwch a’u hanystyriaeth yn eithafol. hawdd fyddai i ni yn yr oes hon osod allan bechodau y dyddiau gynt yn dduach o lawer nag oeddynt; ac wrth siarad am danynt priodol fyddai i ni gofio anfanteision yr amseroedd. Llawer iawn o chwareu oedd ymysg yr hen drigolion, a’r chwareuon weithiau yn ddiniwed, ond ar brydiau eraill yn farbaraidd. Dydd i segura a chwareu oedd dydd yr Arglwydd yn eu mysg i fesur mawr. Yr oedd cryn