bellder i Eglwys y plwyf; a byddai y chwareu yno yn cymeryd llawn cymaint o’r amser a’r "gwasanaeth." Chwareu y byddai pawb, — y plant, y bobl ieuainc, a’r bobl mewn oed; yn unig y byddai chwareuon y gwahanol ddosbarthiadau yn amrywio. Taflu maen, codi pwysau trymion, ymaflyd codwm, cicio y bêl .droed, ac ymladd ceiliogod oeddynt y rhai mwyaf cyffredin; ac mewn cysylltiad â’r rhai hyn byddai llawer o hapchwareu am symiau bychain; a therfynent weithiau mewn meddwdod ac ymladdau.
Cyn dyfodiad y Methodistiaid i’r fro, yr unig wasanaeth crefyddol, fel y crybwyllwyd, oedd yr hwn a gynhelid yn Eglwys y plwyf. A chan fod Eglwys Llanfihangel dan ofal yr un clerigwr, ni chynhelid ond un gwasanaetb yn y dydd yn y naill a’r llall; ac nid llawer a wyddai y clerigwr ei hun am grefydd. Nid oedd yn beth anghyffredin iddo orfod ymneillduo am ychydig ar ganol y gwasanaeth, er mwyn bod yn alluog i’w orphen gyda mwy o rwyddineb a gweddeidd-dra. Ymhell ar ol yr adeg uchod, nid ystyriai y clerigwr yr oedd gofal ysbrydol y ddau blwyf arno, ei fod o gwbl yn "weinidog yr efengyl," er yr edrychai ar ei safle fel "gwas y frenhines" yn un anrhydeddus. Ychydig oedd nifer y gweinidogion yn yr Eglwys Sefydledig yn haner olaf y ganrif ddiweddaf a ofalent ddim am grefydd ysbrydol; ac yr oedd llawer o honynt yn byw mewn anfoesoldeb cyhoeddus.
Tua’r adeg uchod yr oedd ychydig o breswylwyr Corris ac Aberllefenni yn arfer mynychu gwasanaeth yr Eglwys. Merch .Mr. a Mrs. Owen, y Ddolgoed, oedd gwraig y clerigwr oedd yno ar un adeg; a byddai ei rhieni yn lled gyson yn y llan. Dau eraill a elent yno yn fynychach na’r cyffredin oeddynt Meredydd Evan, a Richard Evan,—y cyntaf yn enwedig,—er nad oedd y naill na'r llall yn gwybod rhyw lawer am grefydd. A haedda yr hen foneddiges, Mrs. Anwyl, o’r Hengae, grybwylliad parchus. Gwraig dra defosiynol oedd hi bob amser;