ac a wasanaethai ar y pryd fel clochydd yr Eglwys, a roddodd derfyn bythol ar yr arferiad.
Brysiog iawn yw y drem uchod ar sefyllfa yr ardaloedd hyn cyn cyfodiad Methodistiaeth; a thra anhawdd i ni yn awr ydyw ei sylweddoli yn briodol. Gan’ mlynedd yn ol nid oedd na newyddiadur na chyfnodolyn wedi bod erioed o fewn y plwyf. Ychydig iawn o’r preswylwyr a fedrent lythyren ar lyfr: canys nid oes hanes am ysgol o un math yno am flynyddoedd wedi hyny. Ac ychydig iawn o lyfrau o fath yn y byd ocdd yn meddiant neb o’r plwyfolion. Nid oes neb heb wybod am "Mary Jones, y Gymraes fechan heb yr un Beibl," o Lanfihangel,—y plwyf agosaf i Dalyllyn, yr hon y bu ei hymweliad â Mr. Charles o’r Bala yn achlysur sefydliad y Feibl Gymdeithas. Yn 1785. yr ymunodd Mr. Charles â’r Methodistiaid; a thrwy ei lafur ef y dygwyd yr Ysgol Sabbothol i fodolaeth yn Nghymru. Ni ddymunem ddibrisio unrhyw wasanaeth i grefydd a wnaed gan yr Eglwys Sefydledig yn ein plwyf genedigol; ond credwn y byddai yn anhawdd dangos fod ei sefyllfa bresenol yn ddyledus i ddim a wnaed ganddi yno cyn cyfodiad Methodistiaeth. Nid ymdrechion ei hoffeiriaid hi a newidiodd arferion ac a ddyrchafodd foesau y preswylwyr; na, gwnaed hyn, a dweyd y lleiaf, heb eu cymorth os nad er eu gwaethaf hwy.
Cafodd y Methodistiaid, meddir, ganiatad unwaith, ar eu dyfodiad i'r plwyf, neu ynte ymhen ysbaid ar ol hyny, i gynal Ysgol Sabbothol yn yr Eglwys; ond anfonwyd cwyn at yr Esgob fod gŵr di-urddau yn gweddio yn yr adeilad cysegredig, a rhoddwyd terfyn buan ar yr afreoleiddra. Ac nid hawdd ydy’w anghofio y ffeithiau hyn pan wahoddir ni gan glerigwyr y dyddiau presenol i ddychwelyd eilwaith i fynwes yr Eglwys. Mangre eithaf tywyll a fu Eglwys Talyllyn am lawer o flynyddoedd wedi i oleuni yr efengyl ddyfod i dywynu gyda nerth mewn lleoedd eraill. Gellir dyddio pob gwelliant yn agwedd foesol a chrefyddol y boblogaeth o gyfodiad Methodistiaeth yn y plwyf.