Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD II


CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN NGHORRIS

Ryw adeg cyn y flwyddyn 1780, symudodd gwraig, o’r enw Jane Roberts, o’r Nannau, ger Dolgellau, i’r Rugog, — fferm sydd tua haner y ffordd o bentref Corris i hen Eglwys Tal-y-llyn. Aethai y wraig hon, un tro, o’r Nannau i odfa yn Maes-yr-afallen, o fewn tua thair milldir i’r Abermaw, gerllaw y ffordd oddiyno i Ddolgellau, lle yr arferai yr Annibynwyr bregethu yn achlysurol. Er mwyn cadw yn ddirgel amcan ei mynediad oddicartref, gosododd o dani ar y ceffyl sachaid o wair, fel y gallai y rhai a’i gwelent dybio mai sachaid o wlan i’w gymeryd i’r factory oedd ganddi. Y pregethwr y tro hwnw oedd yr hybarch John Evans, o’r Bala; ac nid anghofiodd Jane Roberts y bregeth byth. Rywbryd wedi ei dyfodiad i’r Rugog clywodd fod rhyw frawd yn dyfod i bregethu i Abergynolwyn; a chymhellodd ei merch Elisabeth, oedd ar y pryd newydd briodi, a'i mab-yn-nghyfraith, Dafydd Humphrey, Abercorris, i fyned gyda hi i'r odfa. Dyma un o’r pregethau cyntaf erioed gan y Methodistiaid yn y plwyf. Mor hynod dlodaidd oedd y plwyf, ac mor deneu ei boblogaeth, fel nad ymddengys i neb o’r diwygwyr Methodistaidd mewn adegau boreuach dalu ymweliad âg ef o gwbl.

Nid ydyw yn hollol sicr pwy oedd y pregethwr. Yn 'Nrych yr Amseroedd' rhoddir hanes pregeth, yr hon y dywedir gan awdwr parchedig 'Methodistiaeth Cymru' (i. 569, 570) oedd y gyntaf gan y Methodistiaid yn y plwyf. Dyma yr hanes yn ngeiriau y Parchedig Robert Jones, Rhoslan:—

"Tro nodedig iawn a fu mewn pentref bychan, a elwir Abergynolwyn. Anturiwyd yno i bregethu ar brydnhawn Sabbath. Erbyn dyfod yno, yr oedd golwg lidus, greulon, ar y dorf liosog a ddaethai ynghyd, fel yr oedd yn aeth ac yn ddychryn meddwl wynebu arnynt; canys nid oedd odid un o honynt a welsai bregethwr, nac ychwaith broffeswr yn un Ile. Cafwyd llonydd gweddol i gadw y cyfarfod mewn modd annisgwyliedig. Ond erbyn clywed pa fodd y cafwyd Ilonyddwch, canfyddwyd fod llaw ddirgelaidd Rhagluniaeth yn sicr yn y tro. Digwyddodd fod gŵr yn byw yn yr ardal a elwid John Lewis; buasai hwnw dro neu ddau yn gwrandaw pregethu, ac yr oedd wedi ei dueddu i feddwl ei fod yn waith da. 'Roedd gan y gŵr hwn fab- yn-nghyfraith (neu fab gwyn, fel y galwent ef) ag oedd yn aruthrol o gryf. Dywedodd yr hen ŵr wrtho fod y rhai'n a'r rhai'n yn bwriadu erlid ac anmharchu y gŵr dieithr yma heddyw: ' ac (ebe fe) ni byddai raid i ti ond eu bygwth, mae'n sicr y byddent yn ddigon llonydd.' Bu y dyn yn falch O'r swydd; bygythiodd hwynt yn erwin, a pharodd ei arswyd yn nhir y rhai byw. Ni bu y cyfarfod heb radd o arddeliad arno. Ac o hyny hyd heddyw, mae pregethu yn yr ardal, a gradd o lwyddiant ar y gwaith Drych yr Amseroedd, tudalen, 119.