Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

phriod. Cyn belled ag y llwyddasom i gael yr hanes, dau o blant fu iddi—un mab ac un ferch. Jane ydoedd enw y ferch; ac ymbriododd â David Jones, o'r Tygwyn, Bryn Eglwys; ac y mae ei disgynyddion yn awr yn lliosog. Mab iddi ydoedd y diweddar Mr,John Jones, Ty'nycelyn; ac y mae yn awr yn fyw o leiaf un ferch iddi, Mrs. Evan Roberts, Fferm, Bodelwyddan. Bu farw Mrs. David Jones, Tygwyn, Mai 20fed, 1847, yn 74 mlwydd oed. Rhaid fod Jane Jones, Aberllefenni, gan hyny yn briod â Mr. Evans ymhell cyn 1790; canys yr oedd ei merch, Jane, y pryd hwnw yn 17 mlwydd oed. Ond yr oedd yn beth cwbl gyffredin i wraig gael ei hadnabod wrth ei henw morwynol. Nid ydym yn gwybod i fab Jane Jones adael ar ei ol ond un mab, sef y diweddar Mr. Dayid Evans, Rhiwbryfdir, Blaenau Ffestiniog. Ei unig fab yntau ydyw Mr. Samuel Evans, Bank, Nefyn.

Hawdd fuasai gwneuthur cofnodion meithion am amryw o'r rhai a enwir uchod. O'r pum' chwaer, dwy yn unig a ymunasant â'r Methodistiaid, sef Jane a Jannett; ond arferai Catharine ac Ellen wrando arnynt, a dangos parch mawr tuag atynt. Un tro yn y Dyffryn, safodd Mrs. Poole wrth ochr y pregethwr, tra yn pregethu, a'i ffon yn ei llaw, i gadw yn dawel ryw ddynion a ddaethent yno i derfysgu; ac mor fawr oedd ei dylanwad fel na feiddiai neb o honynt gyfodi yn ei herbyn. Gwraig o awdurdod ydoedd yn ei theulu, a hynod barchus ymysg ei chymydogion ar gyfrif ei doethineb a'i medrusrwydd. "Gwyr pawb," meddai gŵr y Sylfaen, gerllaw yr Abermaw, unwaith, "fod Catharine Poole yn arfer gwneyd pob peth yn y ffordd oreu." Yn nechreu 1883 y bu farw Mrs. Griffith Thomas, Aberystwyth, yr hon a haedda goffâd parchus fel gwraig nodedig o haelionus. Adroddai unwaith yr hyn a fu yn achlysur iddi profi y rhinwedd hwn. Pregethai gŵr o Sir Feirionydd ryw dro yn ei chlywedigaeth, ac adroddodd am weithred haelionus o eiddo yr hen foneddiges