Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

barchus, Mrs. Vaughan, Cefncarnberth, yn y Bwlch, ger Llanegryn. Yr oedd casgliad pwysig at ddyled y capelau i gael ei wneyd yno un Sabbath: methai Mrs. Vaughan fyned i'r capel oherwydd ei llesgedd, ond rhoddodd bwrs i'r pregethwr i'w gymeryd yno. "Rhoddwch ei gynwys," meddai, "yn y casgliad; a dychwelwch y pwrs i mi." Wedi arllwys y cynwys ar y bwrdd, cafwyd fod ynddo haner cant o bunau "Mi welais," meddai Mrs. Thomas, "y pryd hwnw y fath brydferthwch mewn haelioni crefyddol, fel y penderfynais ddilyn y cyngor a saethodd i'm meddwl ar y pryd, 'Dos, a gwna dithau yr un modd." (Adroddwyd yr hanesyn uchod wrthym gan y Parchedig William Dayies, Llanegryn.) Dywedir fod Jane Jones, yr hon a arosodd yn Aberllefenni, yn wraig nodedig am ei chrefyddolder.

I Jane Roberts, Rugog, yr oedd teulu lliosog,—un ar ddeg o blant, yn ol yr hanes yn 'Methodistiaeth Cymru' (i. 580). Gwelsom eisoes mai merch iddi oedd Elisabeth, priod Dafydd Humphrey. Bu iddynt hwy un mab, Humphrey Davies, yr hwn a leinw le mawr yn y tudalenau dyfodol, a thair, os nad ychwaneg o ferched. Yr henaf oedd Eleanor, yr hon a ymbriododd â John Williams, o'r Pandy Hen, Llanllyfni, yr hwn a fu yn flaenor ffyddlawn a defnyddiol gyda'r Methodistiaid am lawer o flynyddoedd (gwel 'Y Drysorfa' Ebrill 1885). Dychwelodd, wedi marw ei phriod, i dreulio diwedd ei hoes gyda'i brawd yn Nghorris. Yr ail ydoedd Jane, priod y diweddar William Jones, Tanyrallt. Bu farw yn 1834, yr un flwyddyn a'i mam, yn 46 mlwydd oed, gan adael ar ei hol saith o blant. Mae pump o'r rhai hyn yn awr yn fyw, sef y Mri. David a William Jones, Machynlleth; Mrs. Robert Owen, Pandy; Mrs. Elisabeth Davies, Tanyrallt, Corris; a Mrs. David Edwards, Bryn Dulas, Esgairgeiliog. Yr ieuangaf ydoedd Mary,. priod Mr. Evan Edwards, Ffynon Badarn Aberllefenni. Yr oedd y chwaer hon yn hynod mewn duwioldeb; a bu farw yn