Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

Ein bwriad ar y cyntaf oedd dwyn allan Gofiant byr i'r ddau hen flaenor parchus, Humphrey Davies, Abercorris, a Rowland Evans, Aberllefenni. Ond wrth gasglu ein defnyddiau ynghyd, gwelsom yn fuan fod Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd yn ymgylymu yn gwbl naturiol wrth eu hanes hwy. Dafydd Humphrey, tad Humphrey Davies, ydoedd cychwynydd yr achos yn Nghorris; ac nid yw yr eglwysi yn yr Ystradgwyn, Aberllefenni, Esgairgeiliog, a Bethania, ond canghenau o'r pren a blanwyd yn yr Hen Gastell, a draws-blanwyd wedi hyny i Rehoboth, ac y gofalwyd am dano mor ffyddlawn am gynifer o flynyddoedd gan yr hen batriarch hwnw. Ac nid oes neb wedi bod mewn unrhyw gysylltiad â'r achos yn yr ardaloedd hyn hyd o fewn y deng mlynedd diweddaf nad oeddynt yn gydlafurwyr â Dafydd Humphrey, Humphrey Davies, neu Rowland Evans. Penderfynasom gan hyny ysgrifenu mor llawn ag y gallem Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd o'r cychwyniad hyd yn bresenol.


Dygwyd i mewn grybwyllion am lawer o gymeriadau nad oeddynt yn adnabyddus o gwbl y tuallan i'w cymydogaeth eu hunain; ond nid ydym heb obeithio y ceir yn y gyfrol er hyny ryw bethau a'i gwna yn ddyddorol i gylch eangach o ddarllenwyr.


Er pob gofal dichonadwy, y mae rhai gwallau wedi dianc heb eu cywiro. Maent i ni ein hunain yn ddolur llygaid, ac yn rhwym o fod felly i eraill. Cywirir nifer o'r rhai mwyaf