Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pwysig ar tudalen viii, tra y gadewir eraill llai eu pwys i'w cywiro gan y darllenydd.

Derbyniasom gymorth gwerthfawr yn ein gwaith oddiwrth lawer o gyfeillion, y rhai nas gallwn gymaint a dodi i lawr eu henwau. Ond y mae yn eu plith ryw nifer na byddai yn anrhydeddus ynom beidio cydnabod yn gyhoeddus eu caredigrwydd. Mae un o'r cyfryw, a estynodd i ni gymorth parod, wedi myned yn rhy bell i'n cydnabyddiaeth ei gyraedd, sef y diweddar Barchedig John Jones, Brynteg, Bethesda. Mae ein dyled yn fawr i'r Parchedigion William Davies, Llanegryn; Robert Owen, M.A., Pennal; William Williams, Corris; ac Evan Davies, Trefriw; ynghyd â'r Meistri David Ivor Jones ac Owen Roberts, Corris. Ond y mae dau frawd ag yr ydym dan rwymedigaeth fwy neillduol iddynt, sef y Parchedig John Owen, Aberllefenni, a Mr. John Jones, Galltyrhiw. Cymerodd y cyntaf drafferth ddiderfyn i'n cynorthwyo, a bu y diweddaf yn fath o "oracl" i ni i ymgynghori âg ef ymhob anhawsder. Tra ffortunus i ni hefyd ydoedd ymweliad y Parchedig John Roberts, Khassia, â Chymru, pan oeddym yn ysgrifenu; a bu o fantais fawr i ni gael ei gymorth gyda gwahanol ranau yr hanes. A gweddus yw cydnabod ddarfod i ni dderbyn pob cymorth dichonadwy yn y modd mwyaf siriol oddiwrth berthynasau a chyfeillion y gwahanol gymeriadau y gwneir crybwylliad am danynt. Gwnaethom ddefnydd helaeth hefyd o'r crybwyllion yn "Methodistiaeth Cymru," ac amrywiol ysgrifau yn "Y Drysorfa."

Yr ydym wedi derbyn amryw ychwanegiadau dyddorol ar ôl i'r gwahanol sheets fyned trwy ddwylaw yr argraffwyr, ychydig o ba rai a ddodwn i mewn yn y lle hwn. Hysbyswyd ni mai merch David ac Elisabeth Roberts, Gwynfynydd, Ganllwyd, ger Dolgellau, oedd Jane Roberts, y Rugog, y gyntaf o'r Methodistiaid yn Nghorris. Cafodd ddygiad i fyny