Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

da ac addysg well o lawer na'r cyffredin yn yr oes hono. Mae traddodiad ddarfod iddi gael ei gwysio i weled y boneddwr o Ynys Maengwyn, ac iddo yntau gael ei synu a'i foddhau gan ei hymddygiad boneddigaidd. Bu iddi, mae'n ymddangos, ddau wr. Y cyntaf ydoedd Owen Pugh, mab Hugh Owen, Faner, Llanelltyd; ac wedi priodi symudodd at ei gwr i fyw yn y lle hwnw. Bu iddynt o leiaf dri o blant, sef Dafydd, Jane, ac Elisabeth. Dywedwyd wrthym y bu iddynt ychwaneg; ond dyma yr unig rai y cawsom eu henwau. Bu Dafydd yn byw yn y Faner am lawer blwyddyn; a bu iddo ef a'i wraig, Lowri Griffith, bedwar o blant. Mae un o'r rhai hyn, Owen Owen, yn byw yn awr yn Nolgellau. Un arall oedd Griffith Owen, diweddar o'r Faner, gweddw a phlant yr hwn sydd yn awr yn byw yn Derwas, ger Dolgellau. Margaret a John oedd y ddau eraill. Daeth Margaret yn wraig i William Bebb, Rhiwgriafol, Darowen, a bu hi a'i phriod yn bobl hynod grefyddol a chyfrifol. Ymfudodd y teulu i'r America. Bu John yn byw am dymor yn Maesygarnedd, ac ymfudodd yntau i'r America. Mae y brawd a'r chwaer wedi meirw bellach er's blynyddoedd.

Yr ail o blant Owen Pugh a Jane Roberts oedd Jane, yr hon a ddaeth yn wraig i wr o'r enw Robert Cadwaladr; a bu iddynt dri o blant. Un o honynt oedd y ddiweddar Jane Roberts, o Gae'rbeudy, Llanelltyd; yr ail oedd John, yr hwn a fu farw yn ieuanc; a'r trydydd oedd Owen, yr hwn a ymfudodd i'r America. Efe yn unig sydd yn awr yn fyw. Elisabeth, ail ferch Owen Pugh a Jane Roberts, a ddaeth yn wraig i Dafydd Humphrey, Abercorris. Ac Elisabeth Owen y parhawyd i'w galw ar hyd ei hoes.

Wedi marw Owen Pugh ymbriododd yr ail waith ag un John Griffith (nid John Roberts, fel y dywedir yn "Methodistiaeth Cymru,") yr hwn y dywedir oedd yn hwsmon ar y pryd yn mhalas y Nannau. Ymddengys fod ei thad a'i mam wedi