Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ellis Pring, yn talu ymweliadau mynych â'r ysgol yn ei ddyddiau ef. Nid oedd ond ieuanc, a chofiwn yn dda un tro i'r plant mwyaf gyfodi yn ei erbyn, ac i'r gwrthryfel esgor ar ganlyniadau tra annymunol. Caredigrwydd i'r ysgol oedd ei ymadawiad.

Dilynwyd ef gan un o'r enw Thomas Williams ond y mae ein maddeugarwch Cristionogol yn rhy fyr i ganiatau i ni ymhelaethu ar helyntion ei ddyddiau ef. Wedi iddo ymadael, daeth y Parchedig Ebenezer Jones i'r gymydogaeth. Bu am rai blynyddau yn gwasanaethu fel ysgolfeistr; ond ymryddhaodd wedi hyny oddiwrth yr ysgol, ac ymsefydlodd yn yr ardal fel masnachhwr. Brodor ydoedd o Sir Aberteifi, a brawd i'r diweddar Barchedig Evan Jones, Ceinewydd. Digwyddodd rhai pethau anghysurus cyn ei ymadawiad o'r gymydogaeth; a thra ystormus fu arno wedi hyny yn Abergynolwyn. Yn y cynwrf yno ymadawodd â'r Methodistiaid, ac ymunodd â'r Annibynwyr; a chyda hwy y bu yn weinidog (er na roddodd i fyny ei fasnach o gwbl i gymeryd gofal eglwys) hyd ddiwedd ei oes. Gorfodwyd ni lawer gwaith i demilo gofid oherwydd rhyw bethau a wneid ganddo, ond ni chollasom i'r diwedd y gwir barch iddo ar serch calon tuag ato â pha rai y meddianwyd ni tra yn aros o dan ei addysgiaeth. Yr ydym yn teimlo parch calon iw goffadwriaeth; a hyfryd ydyw genym ddwyn ein tystiolaeth iw ddefnyddioldeb am lawer o flynyddoedd yn Nghorris ar amgylchoedd. Yr oedd ganddo ddawn neillduol i gadw cyfarfod eglwysig. Dysgasai lawer o'r Beibl allan pan oedd yn ieuanc, a thra anfynych yr adroddid adnod gan neb na byddai efe yn gwbl gartrefol yn ei chysylltiadau. Dyfynai ar unwaith yr adnodau ol a blaen iddi, fel y rhoddai baich mewn mantais i gael gafael ar ei hystyr. Wrth dderbyn rhai ieuainc at Fwrdd yr Arglwydd yr oedd yn rhagorol. A chyflawnodd lawer o wasanaeth am ychydig iawn o gydnabyddiaeth. Efe am flynyddoedd