Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd a wasanaethai ymhob claddedigaeth; ac nid anfynych y byddai ar yr adegau hyny yn cael y fraint o roddi yn rhad. Am yr ystormydd y bu ynddynt nid ydym yn dymuno dweyd gair. Mae efe a'i briod yn gorwedd bellach ers amser yn mynwent Abergynolwyn. Ac y maent wedi eu dilyn hefyd gan eu hunig ferch, Mary Ann, fel nad oes yn aros yn awr ond eu hunig fab, yr hwn a enwir yntau ar enw ei dad, ac sydd yn parhau i ddwyn ymlaen y fasnach yn Abergynolwyn.

Pregethwr arall a cafwyd ydoedd Mr. David Davies, Geuwern. Daeth ef i'r ardal o Danygrisiau, i fod yn oruchwyliwr ar chwarelau y Geuwern. Brodor ydoedd o Bethesda, yn Arfon. Bu yntau yn gymeradwy a defnyddiol am y tymor y bu yn y gymydogaeth. Cymerwyd ef ai briod ai fab hynaf ymaith gan dwymyn boeth. Mae y plant eraill yn aros hyd heddyw. Brawd iddo ydyw Mr. John Davies, Aberllefenni.

Ond yr hwn a dreuliodd fwyaf o flynyddoedd yn Nghorris, ar hwn y rhaid rhoddi y nodiad helaethaf am dano yn ddiau ydoedd Mr. Hugh Roberts. Ganwyd ef Awst 24ain, 1810, mewn lle a elwid Incline y Dinas, rhwng Bethesda a Bangor. Bu ei rieni, Owen a Charlotte Roberts, yn byw yn y lle hwnw o adeg eu priodas hyd eu gwahaniad gan angau; ac yr oeddynt ill dau yn Eglwyswyr zelog. Ychydig o fanteision addysg a gafodd eu mab Hugh. Bu yn yr ysgol am bythefnos; ond arweinwyd ef gan nwyfiant ei natur dros y terfynau a ganiateid gan yr ysgolfeistr, a cheryddwyd ef am hyny yn ol eithaf llymder disgyblaeth yr amseroedd. Diangodd o'r ysgol, gau addunedu talu y pwyth pan y deuai yn ddigon cryf ; ac ymddengys mai ymostyngiad y troseddwr ai cadwodd rhag cyflawni yr adduned. Pa fodd bynag, ni welwyd ef yn yr ysgol mwyach. Cyn bod yn fwy na saith neu wyth mlwydd oed, dechreuodd weithio yn y Chwarel Fawr; ac yno yr arhosodd nes oedd oddeutu 23 mlwydd oed, pryd y symudodd i Gorris. Yr oedd hyn yn 1833. Gweithiai ar y cyntaf yn