Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwarel Aberllefenni a llettyai yn Tanyrallt, Corris. Ymhell oddeutu blwyddyn ymbriododd â Jane Evans, merch i James Evans, Tynllechwedd; yr hwn y crybwyllwyd am dano eisoes fel prif golofnau yr achos Wesleyaidd yn y Capel Bach. Ganwyd iddynt wyth o blant, pedwar o feibion, a phedair o ferched, o ba rai y mae pump yn awr yn fyw.

Ymddengys y byddai Hugh Roberts, pan yn lled ieuanc, yn arfer myned i Ysgol Sabbothol a berthynai i'r Annibynwyr ac mewn cydffurfiad âg arferiad cyffredin yn y lle, rhoddodd allan iw ganu ar ganol yr ysgol un Sabbath, y penill canlynol

Llefwch genhadon Duw o hyd,
O wele waed adeliawdwr byd
Cymhellwch baich ddod ato fe,
Mae r Iesu'n dweyd fod eto le.

Anghymeradwyiwyd y penill ar unwaith fel yn sawru yn rhy gryf o Arminiaeth. Teimlai yn siomedig, ac adroddodd wrth ei dad yr hyn a ddigwyddasai. Wel, meddai ei dad, ond penill Wesla ydi hwna. Wedi clywed hyn, tueddwyd ef gan ei gariad at y penill i fyned i gapel y Wesleyaid yn Tyn-y-clawdd, Trergarth. Cyn hir, ymunodd â'r eglwys yn y lle hwnw, a daeth i fod yn athraw yn yr Ysgol Sabbothol, gan fod yn hynod ffyddlawn a llafurus nes oedd oddeutu un mlwydd ar hugain oed. Tua'r adeg hono, trwy ryw amgylchiadau, aeth yn ddifater; ac ymollyngodd i ymwneyd â'r diodydd meddwol. Yn fachgen gwyllt y daeth i Gorris, ac felly y parhaodd hyd ddyfodiad dirwest i'r gymydogaeth. Dywedir wrthym iddo ymuno â'r gymdeithas hono ar noson ei ffurfiad; ac mai ei enw ef oedd y pedwerydd ar y llyfr. Credwn y rhaid fod yn Aberllefenni; ryw lyfr y cafwyd enwau ynddo cyn sefydliad ffurfiol y gymdeithas yn Nghorris ac mai dyna yr unig ffordd i gysoni y gwahanol adroddiadau am y rhestr gyntaf o ddirwestwyr yn y gymydogaeth. Ymddengys hefyd mai efe oedd y cyntaf i siarad yn gyhoeddus ar Ddirwest yn Nghorris. Dyma ei