Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dystiolaeth ef ei hun; ac nid ydym wedi clywed dim yn wrthwynebol iddi. Ond y mae yn gwbl sicr er hyny mai ar Morris Jones, y pregethwr, fel y gelwid ef, y rhaid edrych fel tad yr achos Dirwestol yn yr ardaloedd hyn.

Tua'r adeg y cychwynodd Dirwest, aeth Hugh Roberts ai briod i wrando pregeth gan ŵr dieithr yn Llwyngwern, a chafodd y gwirionedd y tro hwn y fath effaith ar ei feddwl, fel mai gydag anhawsder y gallodd gerdded adref. O hyny allan bu yn ddyn newydd. Ymunodd ar unwaith â'r Wesleyaid yn y Capel Bach ; ac nid hir y bu heb gael ei wneuthur yn un o flaenoriaid yr eglwys yn y lle. Tua'r flwyddyn 1841 anogwyd ef mewn Cyfarfod Chwarterol yn Machynlleth i ddechreu pregethu; ar Sabbath canlynol aeth i'r Eglwys Bach, swydd Aberteifi, gyda Mr. Richard Roberts, Machynlleth,—tad y Parchedig Richard Roberts, Llundain. Ei destyn cyntaf ydoedd Psalm xxxvi. 23 Yr hwn yn ein hisel radd an cofiodd ni: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Daeth yn fuan yn bregethwr poblogaidd, a gwneid galwadau mynych am ei wasanaeth y tu allan iw gylchdaith ei hun.

Yn 1853 bu yn yr America am ychydig fisoedd; a chan y tybiai y gallai waeuthur bywioliaeth gysurus yno, dychwelodd i gyrchu ei deulu; ond oherwydd y gwrthwynebiad a deimlid gan ei briod i'r symudiad, gwnaeth ei feddwl i fyny i aros yn dawel yn Nghorris i dreulio gweddill ei ddyddiau. Gadawodd yr argraff oreu ar feddyliau y rhai y daeth i gyffyrddiad â hwynt yn ystod ei arosiad byr yn yr America; a chofient yn serchog am dano ymhen blynyddoedd ar ol ei ddychweliad i'r hen wlad. Tua'r adeg yr oedd efe yn Fair Haven, Vermont, y sefydlwyd yr Achosion Cymreig yno ac yn Middle Granville, y rhai ydynt bellach yn gryfion a lliosog.

Yn niwedd 1855 yr arweiniwyd ef trwy ryw amgylchiadau nad yw yn angenrheidiol manylu arnynt i ymuno â'r Methodistiaid. Daeth ei deulu oll drosodd gydag ef, oddieithr ei fab