Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd yntau yn ddyn ag yr oedd genym o'n mebyd barch calon iddo; a derbyniasom oddiwrtho lawer o garedigrwydd, yn enwedig tua'r amser yr oeddym yn dechreu pregethu. Ond heb geisio gwneuthur unrhyw sylwadau ein hunain ar ei gymeriad ai alluoedd, dodwn i lawr yma nodiadau a dderbyn—iasom oddiwrth y Parchedig J. H. Symond, Towyn, yr hwn a fu yn ystod ei flynyddoedd diweddaf yn y fantais oreu iw adnabod.

Ychydig; awgrymiadau ar gymeriad a defnyddioldeb Mr.Thomas Jones, Caethle

1. Erbyn ystyried ei fod wedi troi ugain oed cyn dechreu talu sylw i bethau crefydd, yr oedd wedi dyfod yn hynod gyfarwydd yn yr Ysgrythyrau, ac yn dra deallus yn ngwahanol bynciau yr athrawiaeth

2. Yr oedd yn ofalus i harddu athrawiaeth Duw ein Hiachawdyr ymhob peth heb adael na dirwest nac unrhyw rinwedd arall heb ei weithredu ei hun ai amddiffyn yn ngwydd dynion.

3. Yr oedd yn gyson a phrydlon yn ei ymwneyd â holl freintiau cyhoeddus crefydd. Pa ymdrech deilwng bynag fyddai ar droed, ni chai sefyll o ddiffyg cefnogaeth addas oddiwrtho ef.

4. Yr oedd yn hawdd ganddo roddi a chyfranu, ystyriai yn foddion gras iddo ei hun ac i bob un arall fod yn cyfranu yn ol ei gallu at bob achos da. Oblegid hyny ceid ef yn cael blas ar roddi ei hun, ac ar grybwyll yn fynych a chynes wrth y gynulleidfa, ond gwneuthur daioni, a chyfranu, nac anghofiwch; canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw. Yr oedd yn hynod awyddus i gael pawb i ddwyn ffrwyth cyfatebol iw hamgylchiadau am ei fod yn credu mai dyna un o lwybrau gwir lwyddiant yn y byd hwn, ai fod yn arogl peraidd, aberth cymeradwy, boddlawn gan Dduw, ac hefyd fod ffrwyth pob un yn amlhau erbyn ei gyfrif.