Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

5. Yr oedd ganddo ddull serchog, cyfeillgar, a chryn fedr i drin pobl, fel ag iw cael i gymeradwyo yr hyn a ystyriai yn fwyaf addas ac angenrheidiol. Meddai hefyd ysbryd pen—derfynol lled gryf, fel na welid mono yn llwfrhau a rhoddi i fyny yr ymdrech er rhwystrau a gwrthwynebwyd.

6. Yr oedd ganddo lawer o gymwysderau i gymeryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Bu am chwe mis yn llywydd y Cyfarfod Misol. Gallai siarad yn dda ar wahanol faterion, a gweddio yn effeithiol. Yr oedd yn ddyn hymaith a deheuig at bob rhan; ac yn ofalus am bob dosbarth a phob oedran, yn enwedig y bobl ieuainc ar plant. Cymerai ddyddordeb mawr yn yr Ysgol Sabbothol a'r Cyfarfodydd Ysgolion. Ceid ef yn fynych yn dweyd pethau rhagorol yn y cyfarfodydd eglwysig, er engraifft—peidied neb a meddwl yn llai o'i fywyd crefyddol am mai myned tros yr un cyflawniadau ddydd ar o'i dydd sydd yn ei wneyd i fyny. Nid yw bywyd crefyddol yn hyn ond cyffelyb i'r bywyd tymhorol. Yr ydym at fyw yn y byd hwn yn myned tros yr un cyflawniadau drachefn a thrachefn, ddydd ar ol dydd. Ail gymeryd ein hanadl o hyd. Cysgu y nos, codi y boreu, gwisgo am danom, bwyta ein prydiau, ar rhai hyny yn cael eu gwneyd i fyny o ddydd i ddydd bron o'r un pethau. Dilya yr un alwedigaeth myned ol a blaen beunydd, a byth bron yr un fath,—ac eto yn byw ar bwys y cyflawniadau cyffelyb a chyffredin hyny ydym yn ddwyn ymlaen ddydd ar ol dydd. Yr un fath gyda bywyd crefyddol. Ail—gymeryd ein hanadl o hyd mewn cymundeb ffydd â'r Arglwydd Iesu. Gwylio a gweddio, a darllen y Beibl ddydd ar o'i dydd. Dyfod dro ar ol tro i'r cyfarfod eglwysig ac i'r addoliad ar y Sabbath, ac at Fwrdd yr Arglwydd. Cyfranu dro ar ol tro at achosion da, ac ymddwyn o ddydd i ddydd yn addas i'r efengyl Ond er mai rhyw gylch o gyflawniadau cyffelyb o wythnos i wythnos ydyw ein crefydd eto trwy y pethau hyn yr ydys yn byw ac yn yr holl bethau hyn y mae