Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bywyd ein hysbryd ni. Gwyliwch flino arnynt nau galw yn gyffredin, oblegid nis gellir hebddynt fyw i Dduw yn Nghrist Iesu ein Harglwydd.

7. Yr oedd yn flaenllaw yn ei olygiadau, ac yn cydfyned â symudiadau ein Cyfundeb yn rhwydd a siriol. Gwelai yn fuan y ffordd yr oedd pethau yn gogwyddo, a medrai ddeall yr amseroedd i wybod beth a ddylai Israel ei wneuthur. Yr oedd ar y blaen mewn rhoddi dylanwad o blaid pob symudiad a fernid yn angenrheidiol tuag at lwyddiant crefydd yn ein plith.

Oherwydd yr holl gymhwysderau amrywiol a nodwyd, yr oedd Mr. Thomas Jones yn un o'r blaenoriaid mwyaf gwerthfawr i gario gwahanol ranau yr achos ymlaen; ac yn un o'r rhai mwyaf diogel a chalonogol i gydweithio âg ef. Gwasanaethodd swydd diacon yn dda, ac enillodd iddo ei hun râdd dela, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yn Nghrist Iesu.

Bu farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb mwyaf, a phan y gallesid disgwyl fod iddo flynyddoedd yn ychwaneg i fyw. Mae ei fab hynaf, Meredith Jones, wedi ei alw yn flaenor yn eglwys Towyn.