Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dafydd Sion Jones, a William Dafydd, Llechlwyd. Cynygiodd Mr. Vaughan iddynt ei wneyd ar ei dir ef ei hun. "Mi gwnawn i o yn nghongl y cae, yn ymyl Cefncamberth," ebe Dafydd Sion Jones. "Thâl hyny ddim byd," meddai W. Dafydd, "dydyw y fan hono ddim yn nghanol yr ardal." "P'le mae canol yr ardal?" gofynai yntau, "Wel, yn y Bwlch," ebe W. D. "Wel, mi awn ni at Owen Evan, Tyddynmeurig, i ofyn am le," ebe Mr. Vaughan. "Cewch yn union," atebai Owen Evan, "ond 'does gen i ddim ond fy oes i'w roi ar y tir." Mentro i gymeryd y tir a wnaethant ar air O. E. yn unig. Pan y cytunwyd i adeiladu capel mewn cynulliad o'r brodyr, "cododd Mr. Vaughan i fyny yn y cyfarfod, gan ddweyd fod caniatad i bawb roddi hyny a fynent, neu a allent, at adeiladu y capel, ac y talai yntau y gweddill. Felly hefyd y bu. Talwyd am bob peth wrth ei adeiladu." Ar ol hyn gwnaed gweithred am y tir, yr hon sydd wedi ei dyddio Ebrill 12fed, 1811. Ardreth flynyddol 1s. Yr oedd Mr. Charles, o'r Bala, yn un o'r ymddiriedolwyr. Modd bynag, ar ol marw Owen Evans, yr hyn a gymerodd le yn rhywle oddeutu 1850, daethpwyd i benbleth gyda'r capel. Haerai ei fab Morris Evans, mai ei eiddo ef oedd y capel, a gorfu i'r eglwys dalu 6p. o ardreth flynyddol am dano am gryn amser. Mewn adroddiad o ymweliad a wnaed â'r eglwys yn nechreu 1852, neu ddiwedd y flwyddyn flaenorol, dywedir eu bod "mewn trafferth efo eu capel yn gorfod talu mawr rent am dano." Wedi bod yn talu fel hyn 6p. o ardreth dros amryw flynyddoedd, prynwyd ef am 60p. Dyddiad y pryniad ydyw 1861. Adeiladwyd y capel i'r maint y mae yn bresenol yn 1865. Y nifer a all eistedd yn y capel yw 146. Gwerth presenol yr eiddo 350p.

Bu Lewis William yn cadw ysgol ddyddiol yn y Bwlch amryw weithiau o bryd i bryd. Yr oedd yma yn 1812, a chanddo fwy na 50 o blant yn yr ysgol. Mae y llythyr canlynol wedi ei ddyddio o'r Bwlch, pan yr oedd L. W. yno yn cadw ysgol:—