Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/193

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gafael yn ei fater, tynai y nefoedd i'r ddaiar ar ei liniau, ac yn ei brofiadau yn y cyfarfodydd eglwysig cyfodai y ddaiar i fyny i'r nefoedd. Gwnaeth lawer o wasanaeth o bryd i bryd dros y Cyfarfod Misol, ac un o'r pethau a wnelai yn fwyaf effeithiol oedd ymweled ag eglwysi y sir. Bu farw Medi 27ain, 1883, yn gyflawn o ddyddiau, ac wedi cyraedd llawn sicrwydd gobaith." Yr oedd ei brofiad yn niwedd ei oes yn ysbrydol a nefolaidd. Bu yn gystuddiol yn lled hir, ac anfonwyd cydymdeimlad oddiwrth ei frodyr yn y Cyfarfod Misol ato fwy nag unwaith. Mewn atebiad i un o'r llythyrau hyn, a anfonwyd ato ef a'i briod, yr hon oedd hefyd ar y pryd yn gystuddiol, anfonodd yntau y llythyr canlynol yn ol at ei frodyr:—

Rugog, Mawrth 1af, 1881.

"Anwyl Frodyr,—Y mae genyf yr anrhydedd o gydnabod derbyniad cydymdeimlad y Cyfarfod Misol, â ni yn ein llesgedd a'n gwendid. Yr ydym yn dra diolchgar i chwi am eich cydymdeimlad. Mae wedi fy lloni yn fawr. Ni feddyliais fy mod yn deilwng o hono, ond daeth heb ei ddisgwyl. Y lleoedd mwyaf hapus genyf oedd y Cyfarfod Misol a'r seiat gartref. Ond yr ydwyf wedi colli y naill a'r llall am a wn i, ond dichon Duw eto fy nghynorthwyo i gael rhai seiadau ar y llawr, cyn myned i'r seiat annherfynol yn ngwlad y goleuni.

"Anwyl Frodyr,—Gan eich bod wedi bod mor garedig wrthyf, y mae arnaf awydd dweyd wrthych am y profiad hyfryd a gefais yn mis Ionawr diweddaf. Fel y dywedodd yr Ysgrifenydd, er fod cofion y Cyfarfod Misol yn gofion nodedig, er hyny, fod cofion y brawd hynaf yn fwy. Yr ydwyf yn cydweled ag ef yn hollol; mae fy mrofiad yn cyd-ddweyd, trwy fy mod wedi cael cymdeithas y brawd hynaf. Rhyw noswaith, ar ol myned i'r gwely, yn lled fuan, fel yr oeddwn yn dweyd ambell adnod a phenillion, pan ddaeth y penill canlynol i fy meddwl:—

Mae Duw yn llon'd pob lle,
Presenol yn mhob man,