Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/194

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Agosaf yw Efe
O bawb at enaid gwan.'

darfu iddo amlygu ei hun, yn llon'd y gwely, a phob lle am ysbaid o amser, fel yr oeddwn mor ddiddanus fel na chefais gwsg hyd y boreu. Yr oeddwn wedi cael gweddi newydd ddiwedd y flwyddyn, sef adnod yn Salm lxxi., "Na fwrw fi ymaith yn amser henaint, ac na wrthod fi pan ballo fy nerth" —fel pe buasai yr Arglwydd yn dweyd wrthyf mewn atebiad, Mi a ddeuaf atat i'r gwely, i'th ddiddanu.' Yr ydwyf wedi dyfod yn hoff iawn o'r Arglwydd, mor hoff ag y mae yn dda genyf feddwl mai Efe a fydd yr agosaf ataf pan fyddo y daiarol dŷ o'r babell hon yn cael ei datod. Mae wedi effeithio arnaf hefyd, fel nad yw nemawr o bwys genyf pa bryd y cymer hyny le. Diolch, O! diolch, mewn gwaed oer! Yr oeddwn yn meddwl y noswaith hono, pe buaswn yn myned yn ieuanc i ail ddechreu byw, na buasai yn ddim gwahaniaeth genyf pa swydd i'w chymeryd yn yr eglwys, ai pregethu, ai bugeilio, ai bod yn ddiacon, ai pa beth bynag y gelwid fi iddo, gan fod Duw yn llon'd pob lle. Terfynaf mewn cofion caredig atoch.

Eich brawd,
SAMUEL."

Y mae yn ffaith nodedig i'w chofio, mai can' mlynedd union i'r un flwyddyn, os nad i'r un dyddiau, yr oedd y tri a ddaethant y crefyddwyr cyntaf yn y wlad hon, yn cychwyn allan o'r un ffermdy i wrando y bregeth gyntaf erioed a draddodwyd gan y Methodistiaid yn yr ardaloedd hyn, ag yr aeth y llythyr hwn allan o hono i'r Cyfarfod Misol. Y fath gyfnewidiad mewn can' mlynedd!

Blaenoriaid presenol eglwys Bethania ydynt, Mri. Evan Edwards, Morgan Jones, William Williams, H. S. Roberts.

TOWYN

Nid Towyn oedd y man cyntaf i agor drws i'r efengyl yn y rhan yma o'r wlad. Yr oedd amryw fanau o fewn ychydig filldiroedd i'r dref wedi ei rhagflaenu yn y fraint hon, rhyw