Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/222

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llais yr eglwys gyda golwg ar ei gychwyniad. Mr. William Evans, yn bresenol efrydydd yn Mhrifysgol Edinburgh; cymerwyd llais yr eglwys o berthynas iddo yntau Rhagfyr 1af, 1881.

Bu ysgrifenydd yr hanes hwn mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys am ddeunaw mlynedd, o 1865 i 1883. Y mae Mr. Hugh Ellis wedi ymsefydlu yn weinidog yr eglwys er mis Ebrill, 1888.

Y blaenoriaid yn awr ydynt Mri. David Rowland, Rees Parry, Richard Jones, David Evans, a Hugh Jones.

MAETHLON.

Dyffryn cul, prydferth, tawel, ydyw Maethlon, yn gorwedd rhwng y bryniau, y tu cefn i Aberdyfi, a'r hen ffordd rhwng Towyn a Phennal yn arwain drwyddo. Pellder oddeutu dwy filldir o Aberdyfi; tair o Dowyn, a phump o Bennal. Gelwid y lle amser maith yn ol, ac weithiau eto, Cwm Dyffryn-gwyn; pryd arall Cwm y Ddau Ddyffryn, am fod yr ardal, o'r mynydd i'r môr, yn cynwys dau ddyffryn, neu ddau wastadedd—gwastadedd y Dyffryn-gwyn, a gwastadedd y Dyffryn-glyn-cul. Geilw y Saeson y lle yn Happy Valley. Mae poblogaeth yr ardal agos iawn yr un nifer a phoblogaeth Ynys Enlli. Yr un nifer ydoedd yn hollol yn Ystadegau Eglwysig Gorllewin Meirionydd a Lleyn ac Eifionydd ychydig flynyddau yn ol. Yn bresenol, holl boblogaeth yr ardal ydyw o gwmpas 90. Y Methodistiaid a sefydlodd achos gyntaf erioed yn lle, a hwy yn unig sydd wedi bod yn ei gario ymlaen hyd yn hyn, er fod yno deuluoedd yn perthyn i enwadau eraill wedi bod yn byw ar wahanol amserau. Rhydd y teuluoedd hyn eu presenoldeb yn y moddion, a'u cynorthwy hefyd tuag at waith yr Arglwydd ymhob modd.

Dechreuwyd cynal moddion crefyddol yn yr ardal yn bur foreu, oddeutu deng mlynedd cyn diwedd y ganrif ddiweddaf, a deng mlynedd ar hugain cyn adeiladu y capel cyntaf. Yr