Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/221

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar gof a chadw gan rai o bobl yr ardal hyd heddyw. Bu ei weddw, Mrs. Humphreys, yn garedig iawn i achos crefydd ar ol ei ddydd ef. Yr oedd hi yn fam yn Israel. Gwir ofalai am yr achos yn ei holl ranau, a llawenhâi yn fawr weled pob symudiad ymlaen gydag ef. Bu yn help mawr i'r efengyl, nid yn unig oherwydd ei sefyllfa gefnog yn y byd, ond trwy roddi ei phresenoldeb yn moddion gras, a thrwy roddi parch i weinidogion y Gair. Yn llyfr cofnodion yr eglwys, ceir yr hyn a ganlyn am dani:—"Bu yn trigianu yn yr ardal am oddeutu 30 mlynedd, a chymerai bob amser ran flaenllaw gydag achos crefydd yn y lle. Aeth trwy lawer o brofedigaethau y byd, ac yr oedd hyny wedi ei haddfedu a'i chymhwyso i ogoniant. Cafodd ei bendithio â llawer o dalent a llawer o ras. Teimlir colled ar ei hol yn yr eglwys." Bu farw Mai 22ain, 1880.

Yn y flwyddyn 1869 adeiladwyd y capel presenol. Rhoddwyd y tir yn rhodd gan Mr. Hugh Jones, Gelligraian. Aeth y draul i'w adeiladu, heblaw hyny, rhwng pob peth, dros 1000p. Ymhen naw mlynedd ar ol hyn, yn 1878, yr oedd y ddyled wedi ei llwyr glirio. Ddwy flynedd ar ol agor y capel, nifer yr aelodau eglwysig oedd 83. Erbyn y flwyddyn y cliriwyd y ddyled, yr oedd eu nifer yn 120.

Cynhaliwyd Ysgol Sul yn Panteidal, haner y ffordd o Bennal i Aberdyfi, am bum' mlynedd, o 1866 i 1871. Elai cyfeillion o Bennal yn benaf yno i gynorthwyo i'w chario ymlaen. Pregethid hefyd yn achlysurol yn yr un lle. Oherwydd colli y tŷ, a diffyg cefnogaeth, rhoddwyd y moddion yno i fyny.

Yn 1879, adeiladwyd ysgoldy prydferth a elwir y Bryniau, oddeutu milldir o bentref Pennal, yn nghyfeiriad Aberdyfi, yn benaf at wasanaeth yr Ysgol Sul. Cafwyd y tir yn rhodd gan y diweddar C. F. Thurston, Ysw., Talgarth. Bu y draul yn agos i 200p. Nid oes o'r ddyled yn aros yn awr ond 25p.

Cyfododd dau bregethwr o'r eglwys hon: y Parch. John Evans, yr hwn sydd yn awr wedi ymsefydlu yn weinidog yn Llanfaircaereinion. Yn mis Tachwedd, 1878, y cymerwyd