Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/241

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyrhaeddai y gweinidog i'r tŷ at yr odfa ddau o'r gloch, ac yr eisteddai, gofalai y chwaer hon am ddweyd yn ei glust, "Mae yr ordinhad i fod ar ol y bregeth." Chwareu teg iddi am roddi cymaint a hyn o rybudd i'r gweinidog. Dechreuodd un bregethu o'r eglwys hon, Mr. Hugh Pugh, yn awr o'r Gwynfryn. Blaenoriaid presenol yr eglwys ydynt, Mri. John Williams, Evan Evans, John Roberts, a John Price: ac y mae y lle yn daith Sabbath gyda Bryncrug.

ABERDYFI

Bu Aberdyfi yn hwy nag odid o le yn y cylchoedd hyn heb yr un tŷ addoliad. Nid oedd yma nac eglwys wladol na chapel Ymneillduol gan neb cyn y flwyddyn 1828, ac yn niwedd y flwyddyn hono yr agorwyd y capel cyntaf erioed yn y lle gan y Methodistiaid Calfinaidd. Mae yn wir fod y Wesleyaid wedi dechreu adeiladu capel flwyddyn neu ddwy cyn hyn, ond cyfarfuwyd â rhwystrau, fel na agorwyd eu capel hwy hyd y flwyddyn ar ol 1828. Bychan a dinôd oedd y lle yn flaenorol i'r adeg yma, ac ychydig oedd nifer y trigolion. Y mae llawer o bobl yn awr yn fyw sydd yn cofio y lle heb ond ychydig iawn o dai, a'r rhai hyny yn salw a llwydaidd yr olwg arnynt. Cynyddodd y boblogaeth yn raddol, heb fod gweithfeydd na dim o'r fath yn yr amgylchoedd yn peri y cynydd. Ymhen rhyw gymaint o amser ar ol 1830, fe ddarfu y diweddar Mr. Owen Williams, ac un arall, wrth gasglu at y Feibl Gymdeithas, rifo y trigolion a'u cael yn 500, ac o'r nifer hwn yr oedd mwy o ferched nag o feibion o 50. Yn awr mae y boblogaeth o 1100 i 1200. Yn y flwyddyn 1827 y gwnaethpwyd y ffordd fawr o Bennal, trwy Aberdyfi, i Dowyn, yr hyn a fu yn fantais fawr i'r lle, oblegid cyn hyny nid oedd y ffordd iddo o bob cyfeiriad ar y tir ond anhygyrch. Cynyddodd y lle yn fawr, hefyd, tuag amser gwneuthuriad rheilffordd glanau Cymru. Cydnabyddir fod yr hinsawdd yma yn dra chynhesol, ar gyfrif fod y pentref yn gwynebu haul y