Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/240

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yno yn pregethu ar y geiriau, "Efe a eiriolodd dros y troseddwyr," arosodd yntau ar ol. Aeth Mr. Morgan ato a gofynodd iddo, "Oeddych chwi yn meddwl aros er's talm?" "Oeddwn wir, Mr. Morgan," ebe yntau, "yr oeddwn mewn profedigaeth fawr, fwy nag allech feddwl. Yr oedd y plant yma, a fy ngeneth i fy hun, yn dweyd y buasai yn ddrwg iawn arnaf os na arhoswn ar ol. Yr oedd genyf ffrindia' yn Nolgellau, ac yn Llwyngwril, aethum yno i ofyn eu cyngor, ac yr oeddynt i gyd yn dweyd fod yn well i mi aros. O'r diwedd, gofynais i Sian Ellis yma, y mae genyf gymaint o feddwl o honi hi â neb,—dyma hi yma i chwi, a phawb yn dweyd y byddai yn well i mi aros." "A ydych chwi yn meddwl eich bod chwi yn bechadur?" gofynai Mr. Morgan, "Ydwyf, yn bechadur mawr iawn, Mr. Morgan, y mwyaf sydd yn y lle yma, mae pawb sydd yma yn gwybod hyny." Ni raid dweyd fod llawenydd a gorfoledd mawr yn ngwydd pawb oedd yn bresenol y Sabbath hwnw, wrth weled yr olaf un wedi bwrw ei goelbren yn eglwys Dduw. Nos Lun ar ol y Sabbath, yn y cyfarfod gweddi, gofynwyd i William Roberts am ledio penill a myned i weddi. "Gwna i fel y medra i, Hugh Pugh," ebe yntau, a rhoddodd y penill canlynol allan:—

"Pechadur wyf a redodd yn gyflym tua'r tân,
Trugaredd yn gyflymach a redodd o fy mlaen;
Ymleddais â thrugaredd nes iddi 'nghael i lawr,
Trugaredd aeth yn drechaf, 'rw'n foddlon iddi'n awr."

Canu a chanu y penill y buont, a dyblu a threblu, drachefn a thrachefn, nes i'r hen ŵr flino, ac aeth ar ei liniau i weddïo cyn iddynt orphen canu.

Fel y crybwyllwyd, y mae eglwys Abertrinant yn meddu hoewder a gweithgarwch mwy na'r cyffredin byth er amser y diwygiad. Diameu i lawer fod yn wasanaethgar i achos crefydd heblaw y rhai a nodwyd uchod. Teilwng ydyw crybwyll am hen chwaer oedd yn bwy yn nhŷ y capel. Os byddai yn digwydd bod yn Sabbath cymundeb, mor gynted ag y