Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/263

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

-nghyfraith, Mr. Evan Morgan Jones, yr hwn hefyd a fu yn dra. gweithgar gydag eglwys Saesneg Towyn, yn rhoddi eu llaw a'u hysgwydd wrth achos yr efengyl yn y Gorllewin pell.

Heblaw y Parch. O. Edwards, B.A., bu y Parch. O. Jones, M.A., Drefnewydd, yn awr o America, ac wedi hyny y Parch. J. H. Symond, mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys. Y gweinidog yn awr ydyw y Parch. R. H. Morgan, M.A. Mr. Townley, Lee Hurst, boneddwr a ddaeth yma o Liverpool, a fu yn flaenor yr eglwys, ac yn gefn i'r achos ymhob cysylltiad am agos i ddeng mlynedd. Yr oedd efe, ynghyd â Mr. Bowstead, gwr arall a fu yn flaenor yr eglwys, ond sydd yn awr wedi ymfudo i Australia, yn Saeson uniaith. Mr. Edwin Jones, Bryn-arvor, a'i deulu fuont o gynorthwy mawr i'r achos o'i ddechreuad. Wedi cael colledion trymion trwy symudiadau, nid oes yn yr eglwys yn awr (1887) ond dau flaenor, Mr. Edwin Jones, a Mr. Hugh Thomas.

EGLWYS SAESNEG ABERDYFI

Oddeutu y flwyddyn 1870 buwyd yn cynal moddion Saesneg yn y capel Cymraeg, am dymor neu ddau, er mwyn y Saeson a ymwelent â'r lle yn yr haf. Gwelwyd nad oedd hyny yn ateb y diben, ac ni pharhawyd y moddion. Y cam cyntaf a roddwyd tuag at ffurfio achos oedd, y penderfyniad canlynol a fabwysiadwyd gan Gyfeisteddfod Sirol yr Achosion Saesneg, ac a gymeradwywyd gan y Cyfarfod Misol yn y Bontddu, Mawrth 28, 1881, —"Ein bod yn penodi y Parch. R. Owen, M.A., Pennal, Mr. William Jones, Aberdyfi, a Mr. Edwin Jones, Towyn, i edrych ar fod achos Saesneg yn cael ei ddechreu yn Aberdyfi mor fuan ag y byddo modd." Ymwelodd y brodyr hyn â'r lle yn uniongyrchol, i wneuthur ymchwiliad gyda'r Saeson, ac i ymgynghori â'r cyfeillion Cymraeg. Canlyniad yr ymweliad hwn fu, i gommittee neu gyfarfod brodyr o'r eglwys Gymraeg gael ei gynal pryd y cytunwyd ar y ddau benderfyniad canlynol.(1). Fod achos Saesneg i gael ei sefydlu trwy