Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/270

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nheimlad y rhan yma o'r wlad o blaid yr ysgol gylchynol. Yr oedd yr eglwysi wedi eu henill erbyn yr adeg yma i wneyd eu rhan yn lled haelionus tuag at ei chynal. Gwneid y casgliad yn chwarterol, weithiau yn gyhoeddus yn y moddion, bryd arall elid o amgylch yr ardal i gasglu. Ambell waith, gosodid yn ngofal y personau a benodid i gasglu at yr ysgol gylchynol, i gymell pawb i ddyfod i'r Ysgol Sul, fel na adewid neb mewn ardal yn gyffredin heb gael y cymhelliad hwn. Byddai y rhieni yn talu rhyw gymaint dros eu plant yn yr ysgol gylchynol y pryd hwn, heblaw yr hyn a gesglid yn y gwahanol ardaloedd, yn enwedig os byddent am ddysgu Saesneg. Mewn rhai engreifftiau ymrwymai yn ardaloedd, neu bersonau mewn ardal, ymlaen llaw am gyflog yr ysgolfeistr. Byddai yr ysgolfeistriaid yn lletya yn fynych ar gylch yn y gwahanol ffermdai. Ac ar y cyntaf buont yn cael eu llety, a llawer o'u lluniaeth yn rhad; ceir engraifft o hyn yn yr hanes am Maethlon. Cymerid gofal neillduol y pryd hwn i osod gwedd grefyddol ar yr ysgol ddyddiol fel yr Ysgol Sabbothol. Rheolau syml iawn oedd ei rheolau yn aml. Mewn cyfarfod o athrawon y Dosbarth ceir y sylw canlynol,—"Bwriwyd golwg ar Ysgol y Cylch. Ystyriwyd fod ei hamser ar ben yn Llanegryn, Gorphenaf 4ydd, a'i bod i ddechreu un ai yn Llanerchgoediog ai Brynerug—hyn i gael ei derfynu rhwng John Jones a Harri Jones y Sul nesaf." Yn debyg i hyn y buwyd yn cario pethau ymlaen am y chwarter cyntaf o'r ganrif. Yr oedd dynion blaenaf yr ardaloedd, ar ol marw Mr. Charles, yn parhau i weithredu yn ol ei gynlluniau ef. Ysgrifenwyd y llythyr canlynol gan John Jones, Penyparc, at ysgolfeistr y cylch:—

"Brawd Lewis William,—Bydded hysbys i chwi y penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod brodyr nos Fawrth, y 19eg o Fedi, 1820, yn nghylch yr Ysgol Gylchynol,—1. Daeth chwech o gynrychiolwyr tros yr ysgolion canlynol i ymofyn am yr ysgol, Towyn, Dyfi, Pennal, Bwlch, Bryncrug, Llanegryn. 2. Rhoisant alwad unfrydol am yr ysgol; darllenwyd eich llythyr