Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan yr hen bobl. Fel hyn yr adroddir ef yn Hanes Methodistiaeth Corris—"Wrth efail y gôf yn Nghorris, un tro, gofynai bugail Aberllyfeni i gyfaill, A ydych chwi yn myned i'r llan y Sul nesaf? Na,' meddai yntau, 'dydw i ddim yn gwybod am ddim neillduol yn galw y Sul nesa'.' Byddai yn dda iawn gen i, meddai y bugail, wybod am rywun yn myn'd, oblegid mae yn Tyrau Hirion lwdwn yn perthyn i Rywogo, ac y mae arna i ofn garw iddo fyn'd oddiyno cyn iddyn nhw glywed am dano fo.' 'O, wel,' meddai ei gyfaill defosiynol a charedig, 'Os oes rhyw achos fel yna yn galw, mi äi yno, a chroeso.' Ac nid ymddengys y teimlai neb fod neges o'r fath mewn un modd yn anghyson âg amcan y gwasanaeth, nac a sancteiddrwydd y dydd, canys yr oedd yn arferiad cyson i gyhoeddi arwerthiadau, ac i wneuthur hysbysiadau amaethyddol yn hysbys ar y fynwent ar ol y gwasanaeth, cyn i'r gynulleidfa ymwasgaru. Dywedir mai Richard Anthony, yr hwn a wasanaethai ar y pryd fel clochydd yr eglwys, a roddodd derfyn bythol ar yr arferiad" Nid yn unig yr oedd y pethau hyn yn cael eu gwneuthur ar y fynwent ar y Sabbothau trwy oddefiad, ond gwnelid hwy trwy orchymyn, a byddai offeiriad y plwyf yn cymeryd y rhan fwyaf blaenllaw ynddynt, ac yr oedd yntau drachefn yn eu gwneuthur trwy orchymyn cyfraith y wlad yr amseroedd hyny.

Yn nghwr uchaf ardal Corris, y mae lle a elwir "Pencareg- Celwydd." I'r lle hwn yr ymgasglai plant ac ieuenctyd i fyned trwy eu chwareuon a'u campau ar y Sabbothau. Elai eu rhieni gyda hwy i edrych arnynt yn myned trwy eu gwahanol gampau. Ymdyrent ac eisteddent ar y glaswellt, ar hir-ddydd heulog haf—y plant i chwareu a'u rhieni i'w cefnogi. Mawr fyddai y taeru a'r dadleu plant pwy fyddai yn enill yn y chwareuon. Gwaeddai rhai, hwi gyda'r plant yma, gwaeddai eraill, hwi gyda'r plant eraill. Hwi, a hai, a dal ati hi, ebe pob un gyda'i blentyn ei hun. Y goreu daero fyddai hi wedyn, a'r chwareu yn y diwedd yn troi yn chwerw. Y