Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/293

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

crefyddol; elai yn uniongyrchol at ei orchwyl, a deuai heb ymdroi i ben ei siwrnai, ac arferai ddweyd yn fynych, "mai diffyg min ar ein harfau yw yr achos ein bod mor anniben yn cyflawni ein gorchwylion."

Rhoddai sylw neillduol i Ragluniaeth Duw, ac ymddiriedai ynddi am bethau tymhorol ac ysbrydol. Hoff ganddo fyddai adrodd am y tro hynod gyda chadwraeth ceffyl John Ellis, Abermaw. Digwyddodd y tro hwnw ryw gymaint o amser yn flaenorol i'r flwyddyn 1810. Aeth John Ellis i Lundain i bregethu am dri mis. Cymerodd Harry Jones ei geffyl i'w borthi am yr ysbaid hwnw, yr hwn oedd dymor i'w borthi yn y tŷ. Yr oedd yr haf blaenorol wedi bod yn sych iawn, a phorthiant anifeillaid y gauaf o ganlyniad yn hynod brin, a bernid fod y porthiant yn brinach ganddo ef na llawer o'i gymydogion. Ond er eu mawr syndod, nid oedd nemawr dyddynwr yn yr ardal heb ddyfod ato ef i geisio gwair ar galanmai!

Yr oedd ei ddiwedd yn dangnefedd llawn, fel y gallesid disgwyl i ŵr mor perffaith ac uniawn. Trefnodd ei dŷ cyn marw, ac ymhlith pethau eraill, pan y gofynodd ei fab iddo pa fodd yr ydoedd, atebai, "Cymylog ydyw ar fy meddwl, ond er fod amheuaeth yn awr yn fy nghuro i lawr, eto, wrth droi yn ol i edrych ar y dyddiau gynt, yr wyf yn credu fod cyfamod tragywyddol wedi ei wneuthur a mi." Bu farw Gorphenaf 8fed, 1823, yn 64 oed, a bu galar mawr ar ei ol. Y rhai a'i hadwaenent a ddywedant ei fod yn fwy ei ddylanwad yn yr oes hono na neb yn yr ardaloedd.

William Davies (William Dafydd), Llechlwyd

Yn hen fynwent Celynin, cei a ganlyn ar y beddrod lle yr huna: "Er coffadwriaeth am William Davies, Llechlwyd, yr hwn a fu farw Ebrill 19eg, 1854, yn 77 mlwydd oed." Ganwyd ef felly yn 1777, blwyddyn y tair caib, fel yr arferai ef ei hun ei galw. Yr oedd yn un o'r tri neu bedwar cyntaf o