Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/312

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Chwefror, 1870. "Nid oes dim dadl," ebai ei hen gyfaill Humphrey Davies wrth gyfeirio at ei farwolaeth, "nad i'r nefoedd yr aeth Rowland Evans, ond ni bu nefoedd yn fwy amheuthyn i neb erioed nag iddo ef." Ceir hanes llawer helaethach am dano ef ac Humphrey Davies, gan y Parch. G. Ellis, M.A., yn Methodistiaeth Corris.

Owen Williams, Aberdyfi

Ganwyd ef yn Tŷ'nymaes, Bryncrug, yn y flwyddyn 1800. Yr oedd ei dad yn Eglwyswr, a'r pryd hwn edrychai gyda rhagfarn ar yr Ymneillduwyr; ond ar ol Diwygiad Beddgelert cafodd yntau ei argyhoeddi, ac ymunodd â'r Methodistiaid. Yr oedd ei fam yn un o'r gwragedd crefyddol cyntaf fu yn dilyn achos Iesu Grist yn Nosbarth y Ddwy Afon, ac ymddengys ei bod hi yn nodedig o grefyddol. Yr oedd gan Owen Williams feddwl mawr o grefydd ei fam. Dywedai iddo weled pan yn blentyn y dagrau yn rhedeg i lawr ei gruddiau lawer gwaith wrth ddarllen y Beibl ar ei phen ei hun. Y flwyddyn y ganwyd ef yr adeiladwyd capel Bryncrug y tro cyntaf, a hwn oedd yr ail gapel a adeiladwyd gan yr Ymneillduwyr yn yr holl wlad. Un haf, pan yr oedd ef yn blentyn pur fychan, yr oedd yn gynhauaf anghyffredin o wlyb. Cyn diwedd y cynhauaf, digwyddodd iddi fod yn ddiwrnod teg ar y Sabbath, a chan nad oedd y pen teulu yn grefyddwr, yr oedd yn rhaid i'r teulu oll fyned allan i rwymo yr ŷd; a chofiai O. Williams yn dda weled ei fam yn wylo yn arw oherwydd ei bod yn gorfod myned allan i drin yr ŷd, gan yr ystyriai hi hyny yn dori y Sabbath. Pan oedd tua chwech oed symudodd ei rieni i fyw i'r Fadfa, oddeutu haner y ffordd rhwng Towyn ac Aberdyfi. Cafodd felly fantais i wybod holl hanes y wlad o amgylch ei gartref, a gallai adrodd hanes pawb a phob peth yn y fro o ddechreuad y ganrif. Treuliodd bum' mlynedd o'i oes pan yn ddyn ieuanc yn Aberystwyth, o 1820 i 1825, a bu agos yr holl amser hwnw yn arwain y canu gyda'r Methodistiaid yn