Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/320

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Tŷ Engine Magnus." Y tymor hwn, llafuriodd lawer i gyraedd gwybodaeth, trwy ddarllen y Traethodydd, a thrwy y dadleuon brwd a gymerent le rhwng y gweithwyr. Gwnaeth amryw o symudiadau yn ystod ei fywyd, a'r cwbl gan fyned rhagddo. Nid digwyddiad oedd ei symudiadau; yr oedd yn amcan ganddo ynddynt i gyd, i wneuthur yr oll er lles a mantais i achos crefydd. Bu am 18 mlynedd yn Galltyrhiw; 18 mlynedd drachefn yn Voel Vriog; a 7 mlynedd yn Caethle. Tra yr oedd yn dal y fferm fechan Galltyrhiw, gweithiai am gyflog yr un pryd, a bu yn hynod lafurus er mwyn iddo gael symud i le mwy. Adroddai hanes am dano ei hun yn y tymor hwn sydd yn werth ei gadw mewn coffadwriaeth. Yr oedd ei briod yn gweithio yn ddiwyd a chaled gyda y fferm gartref, ac yntau yn gweithio yn y chwarel. Yr oedd yn fyd gwan iawn, y cyflogau yn fach, ac nid oedd modd cael y cyflog ond bob rhyw dri mis, fel yr oeddynt mewn cryn ymdrech i gael dau ben y llinyn ynghyd. Mewn canlyniad, ofnai y byddai raid iddo dynu yn ol yn y casgliad misol yn y capel. Y wraig ac yntau un tro a siaradent a'u gilydd ar y mater, a dywedai ef ei fod yn ofni mai rhoi llai fyddai raid iddynt. "Na," meddai y wraig, "gadewch i ni beidio tynu yn ol, gwell i ni dreio eto am dipyn i beidio rhoi llai yn y casgliad, beth bynag." Ac o'r dydd hwnw allan, fe drodd Rhagluniaeth o'u plaid: dechreuasant lwyddo yn y byd, a llwyddo a wnaethant o hyny i'r diwedd. Fel yr oedd ef yn symud o'r naill le i'r llall, yr oedd crefydd ar ei mantais yn ei holl symudiadau; dangosai llyfr yr eglwys yn union y pryd yr elai ar gynydd yn mhethau y byd. Yr Arglwydd oedd yn ei lwyddo yn dymhorol ac ysbrydol, ac yr oedd yntau yn gweled llaw yr Arglwydd ymhob peth, ac yn "anrhydeddu yr Arglwydd â'i gyfoeth, ac â'r peth penaf o'i holl ffrwyth."

Ceid fod rhagoriaethau ei gymeriad yn llawer. Yr oedd yn ŵr o farn, ac yn ŵr o gyngor, yn gymydog yn ngwir ystyr y gair, ac fel y dywedir yn yr Ysgrythyr, wedi ei berffeithio i