Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/321

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bob gweithred dda." Un o fil ydoedd fel cymydog. Ewyllysiai yn dda i bawb, hoffai weled pawb yn llwyddo, a gwnai ei oreu ei hun tuag at i bawb lwyddo. Dyn siriol, caredig, cymwynasgar ydoedd, a'i gyfarchiad wrth eich cyfarfod ar y ffordd neu yn y tŷ yn enill eich calon a'ch ymddiried. Elai lawer o'i ffordd ei hun i wneuthur lles i eraill. Meddai ffydd gref mewn Rhagluniaeth, a chredai ac ymhyfrydai mewn gweled dynion yn ymdrechu yn dymhorol ac ysbrydol. Ni chlybuwyd bron un amser gymaint o gwyno ar ol colli cymydog ag ydoedd ar ol ei golli ef.

Fel crefyddwr drachefn, cyfodai ar adegau uwchlaw iddo ei hun, ac uwchlaw ei gyfeillion. Crefydd oedd y peth penaf iddo ef. A'r wedd neillduol ar ei grefydd oedd gwaith. Yr oedd yn weithiwr difefl, ac yn filwr da i Iesu Grist. Dyn o ddifrif ydoedd gyda phob peth, a dyn a wnaeth y goreu mewn modd amlwg o'r ddau fyd. Byddai o ddifrif ar ei liniau mewn gweddi, yn y cyfarfod eglwysig, yn gwrando y weinidogaeth, ac yn cynghori ei gyd-dynion. Cyfodai ei deimladau yn uchel yn ei holl gyflawniadau crefyddol, ond y nodwedd amlycaf o bob peth ynddo oedd gwaith. Elai rhagddo o hyd mewn gweithgarwch. Methai yntau fel pawb weithiau. Nid oedd heb ei golliadau; a pha le y ceir dyn felly? Modd bynag, pa un bynag ai methu ai peidio, yr oedd efe am fyned rhagddo, mewn haelioni, mewn trefniadau, mewn cynydd gyda phob achos da, ac i hyrwyddo teyrnas yr Arglwydd Iesu yn y byd. Dechreuad a diwedd ei ddiwrnod gweithio oedd—Ymgysegriad.

Bu yn llenwi y swydd o flaenor am oddeutu 30 mlynedd, y rhan fwyaf o honynt yn Nghorris; dewiswyd ef i'r swydd hefyd yn Nhowyn. Yr oedd efe yn mawrhau y swydd o flaenor, ac fe roddes urddas ar y swydd. Wedi colli yr hybarch dad a'r blaenor adnabyddus, Humphrey Davies, Abercorris, syrthiodd y fantell yn naturiol ar Thomas Jones. Yntau, fel Eliseus, a gymerodd y fantell i fyny, a chyda hi a gyflawnodd