Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/322

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

waith ei swydd yn ofn yr Arglwydd. Blaenor yn blaenori ydoedd efe ymhob peth. Yn hyn cadwodd ar y blaen yn ei oes; byddai yn chwilio am waith i'w wneuthur, ac yn barhaus yn cynllunio pa fodd i'w wneuthur. Mewn rhagdrefnu a rhagofalu, rhoddai esiampl i liaws ei frodyr, ac yn hyn bron na ragorai ar y rhai rhagoraf o honynt. Un o'r Trefnyddion Calfinaidd ydoedd mewn gweithred a gwirionedd, ac yn ystod yr ugain mlynedd olaf o'i oes efe oedd un o'r Trefnyddion goreu a feddai Sir Feirionydd. Cafwyd ynddo weithiwr digymar ymhob cylch yn ei eglwys gartref, yn y Cyfarfod Dosbarth, yn y Cyfarfod Ysgolion, yn y Gymanfa Ysgolion, ac yn y Cyfarfod Misol. Tra byddai rhai yn ofni myned ymlaen, ac eraill yn cwyno nad oedd dim modd myned ymlaen, byddai ef fel gwir ddiwygiwr yn cynllunio pa fodd i fyned yn bellach yn ei flaen. Nodwedd ragorol iawn ynddo fel blaenor yn eglwys Dduw oedd, ei fod bob amser yn barod i wynebu anhawsderau. Ni byddai byth yn cilio o'r ffordd pan ystyriai mai myned ymlaen fyddai ei ddyledswydd. Elai trwy dywyllwch a rhwystrau, gan ymddiried yn Nuw. Yn cyflawni ei swydd fel diacon yn yr eglwys, yr oedd yn debyg iawn i'r hyn a ddywedir am un o ddiaconiaid cyntaf yr Eglwys Gristionogol yn llawn o'r Ysbryd Glân ac o ffydd." Cynyddai o hyd ymhob gras a rhinwedd, a chymerwyd ef ymaith yn anterth ei nerth. A dyna sydd yn adlewyrchu yn ddisglaer eto ar ei gymeriad, yr oedd yn fwy awyddus i weithio dros Grist yn niwedd ei oes nag y bu erioed. Tystiolaeth pawb a'i hadwaenent, a thystiolaeth y gwirionedd ei hun ydoedd, ei fod yn was da a ffyddlawn, ac wedi gweithio ei ddiwrnod fel un o'r rhai ffyddlonaf o'r ffyddloniaid. Boreu Sabbath, Gorphenaf 13eg, 1884, hunodd yn dawel yn yr Iesu.

Hugh Owen, Maethlon

Un o "gywion yr estrys" oedd ef, yn amddifad er yn ieuanc o dad a mam. Daeth at grefydd pan yn fachgen 14 mlwydd oed,