Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/352

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cofio yr hyn oedd Duw wedi ei wneuthur i'w tadau—ystyried 'y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd.' Yn ngwyneb eu hanawsderau, dyna fyddent hwy yn ei ddweyd, 'Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; ymddiffynfa i ni yw Duw Jacob.' Mae yr Arglwydd wedi gwneuthur gweithredoedd nerthol trwy yr Ysgol Sabbothol yn ein gwlad. Y mae wedi bod gyda'r hen bobl yn Nghymru mor wirioneddol âg yr oedd gydag Israel yn myned trwy y Môr Coch, ac yn meddianu gwlad Canaan. Gadewch i ninau lynu wrth Arglwydd Dduw ein tadau, a dadleu ei addewidion grasol Ef i'w bobl."