Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/365

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

odd crefyddwyr Dolgellau, a'r triniaethau chwerwon a gawsant yn ystod y 30 mlynedd cyntaf o ddechreuad yr achos yn y dref. Ac fe gofir na roddwyd cychwyniad o bwys i'r achos cyn 1766.

"Cof genyf," ebe Mr. Charles, "fy mod yn yr ardaloedd hyny yn pregethu allan unwaith, ac wedi dechreu pregethu, canfyddwn ryw nifer o'r teulu erledigaethus hyn yn nesu ataf, a thyweirch neu gerig yn eu dwylaw, ar fedr eu tawlu ataf; pan ganfyddodd un o'r dyrfa hyn, gŵr tal, corffol, neidiodd i fyny, a safodd rhyngof â'r perygl, a pharodd i mi draethu yr hyn oedd genyf i'w draethu i'r bobl yn ddibryder." Digwyddodd hyn yn lled ddiweddar, sef yn rhywle yn tynu at ddiwedd y ganrif ddiweddaf, o leiaf wedi i Mr. Charles ddyfod i fyw i'r Bala.

Yr hanes am Catherine Owen yn sefyll yn y ffenestr, rhwng y pregethwyr â'r erlidwyr, ydyw un o'r digwyddiadau mwyaf hynod o holl orchestion crefyddwyr y dref. Haedda yr hanes hwn gael ei groniclo drosodd a throsodd drachefn, a'i' drosglwyddo i'r oesau a ddaw, fel esiampl o wroldeb a gwrhydri un o ganlynwyr ffyddlon yr Iesu yn Sir Feirionydd. "Fel hyn y bu am y tro hwnw," ebe Robert Jones, Rhoslan. "Yr oedd y cyfeillion yn Nolgellau wedi cael eu herlid yn echryslon y nos Sul o'r blaen, ac un wedi cael ei daro â chareg, fel y bu yn hir mewn llewyg; er nad oedd yno y tro hwnw neb yn pregethu. Y nos Sabbath canlynol, daeth yno ddau i bregethu; a chwi ellwch feddwl na allai natur lai nag ofni. Pa fodd bynag, wedi ymgasglu o'r gwrandawyr i'r tŷ, eisteddodd y wraig, sef Catherine Owen, yn y ffenestr oedd ar gyfer y pregethwyr, gan ddywedyd yn siriol iawn, 'Ni chant eich taro oni tharawant chwi trwyddof fi'. Bu hyn yn rym i feddwl y pregethwyr, wrth ei gweled mor ddisigl yn ei hymddiried yn yr Arglwydd. Cafwyd llonyddweh y tro hwn heb ei ddisgwyl." Y mae rhai o deulu y wraig hon a'u hysgwyddau o dan yr achos yn Nolgellau hyd heddyw; ac nid y lleiaf o'u