Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/364

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ymgyfarfyddent; yr oedd yn lle distaw a chuddiedig. Trwy ryw foddion neu gilydd, daeth yr ymguddfa hon, a'r gwaith a gyflawnid ynddi, yn wybyddus i'r erlidwyr; ac ar ryw dro, pan yr oeddynt wedi ymgyfarfod, aeth y gelynion ar eu hol, a chan sefyll ar y llechwedd uwchben y ceunant, bwrient gerig mawrion gyda rhuthr arswydus, ar antur i'r ceunant, heb ddisgwyl amgen na archollid y gweddiwyr yn drwm, os na leddid rhai o honynt. Ond yr oedd y dorlan y llechent odditani yn eu cuddio, a'r cerig yn chwyrnellu heibio dros eu penau i'r nant. Wedi rhyw enyd o fwrw y meini, daeth rhai o'r erlidwyr i lawr i chwilio am danynt, ac i ym- ofyn eu helynt, a hyny ar y pryd yr oedd Robert Sion Oliver yn gweddio; a phan y clywsant ef yn y tywyllwch yn gweddio syrthiodd arnynt fraw aruthrol, a ffoisant ar frwst mawr, gan waeddi, Y Mawredd mawr, y mae y dyn yn medru darllen gweddïau heb yr un ganwyll."—Methodisliaeth Cymru, I. 507.

Crybwyllwyd amryw weithiau, yn hanes eglwysi rhwng y Ddwy Afon, am Maes-yr-Afallen, fel lle y bu crefyddwyr o wahanol ranau y wlad, un adeg, yn cyrchu iddo. Cofrestrodd y Parch. Benjamin Evans, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Llanuwchllyn, fel y sylwyd, ran o'r tŷ hwn i bregethu ynddo, a deuai yno ei hun yn achlysurol i weinidogaethu, dros saith mlynedd o amser, o 1770 i 1777. Yr oedd y manteision i addoli yn y lle hwn yn ddeublyg—ceid amddiffyn cyfraith y wlad dros y tŷ, ac yr oedd y lle yn neillduedig, ac allan o gyraedd yr erlidwyr. Y mae yr amser hefyd y bu pregethu o dan amddiffyniad y gyfraith yn y tŷ hwn, yn cyfateb yn hollol i'r adeg yr oedd y rhwystrau gryfaf yn erbyn y Methodistiaid. Naturiol ydoedd casglu fod y crefyddwyr yn Nolgellau wedi gwneuthur defnydd da o'r cyfle hwn i fyned i Maes-yr-Afallen i addoli, ac fe ddywedir y byddai y gwyr yn myned yno i'r moddion—pellder o chwe milldir—ar ol cadw noswyl, a'r gwragedd ar ol rhoddi y plant i orphwys.

Wele rai o'r lliaws engreifftiau o anhawsderau a gyfarfydd-