Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/363

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyntaf Dolgellau o dan erledigaethau trymion am faith flynyddau. Nid yn unig yr oedd yr erledigaeth yn boethach, ond parhaodd yn hwy yma nag odid fan. Deuai pregethwyr heibio ar eu tro o'r Deheudir, o Sir Gaernarfon, ac o'r Bala, a chaent yn fynych ddihangfa gyfyng am eu heinioes. "Rhy faith," ebe Robert Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amseroedd, "pe gellid cofio, fyddai adrodd am lawer o'r helyntion a'r erledigaethau a ddioddefodd llawer yno (yn Nolgellau) o hen bererinion cywir; pa rai, gan mwyaf, sydd yn awr (1820) yn gorphwys yn dawel oddiwrth eu llafur. Gorfu iddynt tros rai blynyddoedd fyned yn ddistaw iawn i'r dref yn y nos, a chadw yr odfeuon cyn dydd, a myned ymaith ar doriad y wawr, cyn i'r llewod godi o'u gorweddfaoedd. Byddai un yn aros i fyny trwy y nos, i fyned o amgylch i alw pawb oedd yn caru gwrando, i ddyfod ynghyd at yr amser. Llwyddodd Duw ei waith yn rhyfedd yno, yn ngwyneb pob stormydd." Ni feiddiai y pregethwyr ddyfod i'r dref rai prydiau, ac ni feiddiai hyny o grefyddwyr oedd yno eu derbyn rhag ofn yr erlidwyr. Cynhalient y moddion mewn tai, neu mewn cilfachau y tu allan i'r dref, am y caent fwy o lonyddwch mewn lle felly. Cynhelid moddion crefyddol yn yr Esgeiriau, tyddyn bychan tua chwarter milldir o'r dref, uwchben ceunant a elwir Ceunant Stuckley. Yr oedd y teulu a breswylient yma yn grefyddwyr, a rhoddent eu tŷ yn agored i bregethu ynddo. Un tro, pan oedd y Parch. Peter Williams i bregethu yn y tŷ hwn, rhuthrodd yr erlidwyr i'r tŷ, diffoddasant y canwyllau, torasant y dodrefn, a bwriasant hwy i lawr y ceunant, a gorfu i'r crefyddwyr foi am eu bywyd. "Boreu dranoeth, caed y dodrefn drylliedig, a'r llestri llaeth, yn ngwaelod y ceunant." "Un o'r crefyddwyr cyntaf oedd Robert Sion Oliver. Y mae rhai yn fyw yn bresenol (1850) yn cofio ei farw. Byddai hwn ac amryw eraill yn arfer myned fin' nos i'r ceunant hwn i gynal cyfarfodydd gweddio. Yr oedd torlan fawr yn crogi uwchben rhan o'r ceunant, ac odditan y dorlan hon