Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/362

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fodydd i gynghori a rhybuddio y trigolion am eu cyflwr, ac un tro cynlluniai haid o erlidwyr i ymosod ar y tŷ lle y cyfarfyddai, gan fygwth ei lladd. Yn gwybod am eu bwriad, cipiwyd hi ymaith gan un o'r enw Miss Edwards, ac a'i cuddiodd mewn cist flawd. Rhuthrodd yr ymosodwyr yn ffyrnig i'r tŷ, a chwiliasant am dani ymhob man ond yn y gist flawd. Wedi iddynt ymadael o'r tŷ, cymerodd Miss Edwards (yr hon, gyda llaw, oedd yn gyfnither i Mr. John Griffith, Abermaw) hi o dan ei nodded, ac anfonodd hi ymaith ran o'r ffordd rhyngddi â'r Bala.

Y mae yn lled sicr i'r ddau udgorn mawr cyntaf—Howel Harris a Daniel Rowlands—fod yn pregethu yn Nolgellau, er nad yw yr hanes am eu hymweliad ond hynod brin. Tybir mai tua'r flwyddyn 1760 yr ymwelodd y cyntaf o'r ddau â'r dref, ac fel hyn y rhed yr hanes:—"Fe fu Howel Harris yn y dref hon yn pregethu. Yr oedd ganddo am dano hugan fawr lâs, wedi ei botymu hyd y gwddf. Pan ddechreuodd bregethu, dechreuodd y bobl derfysgu yn arswydus, ac ymosod arno trwy ei luchio, a llefain, a rhwystro clywed ei lais gan y bobl. Galwai arnynt yn uchel a gwrol yn enw y Goruchaf i fod yn llonydd, ond ni wrandawent. Yna efe a ymddiosgai o'r hugan lâs, gan ddangos ei wisg filwraidd, a gorchymyn distawrwydd yn awdurdodol yn enw brenin Lloegr. Ar hyn, dychrynodd yr erlidwyr, a chiliasant o'r ffordd Yr oedd hyn yn ystod y tair blynedd y bu Howel Harris yn gwasanaethu fel milwr o dan y Llywodraeth, pan y bu rhyfel poeth yn erbyn y deyrnas hon. Dyna rydd gyfrif am y wisg filwraidd oedd am dano. Yr unig grybwylliad am Daniel Rowlands ydyw, iddo fod rai troion yn pregethu yn y dref, ac y byddai yn arfer lletya yn nhŷ un o'r enw Ann Evans. Adroddai y wraig hon wrth ei phlant a'i hwyrion, y byddai Evan Evans, ei thad hi, yn myned yn gwmni iddo yn ei deithiau i Sir Gaernarfon.

Yn ol pob hanes a geir o bob cyfeiriad, bu crefyddwyr