Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/394

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y swyddi hyn yn well. Bu farw yn lled sydyn, Awst laf, 1882, yn 69 mlwydd oed.

Richard Morris.—Brodor o Ddolgellau oedd yntau, ac ystyrid ef yn ŵr da a chymeradwy ymysg ei gydnabod. Bu am bum mlynedd a deugain mewn swydd o ymddiried gyda'i orchwylion bydol, a dangosodd bob cywirdeb a gonestrwydd ynddi. Rhagorai ar y cyffredin fel athraw yn yr Ysgol Sul. Parhaodd yn iraidd ei ysbryd hyd ddiwedd ei oes, a rhoddodd ei ysgwyddau yn dyn o dan yr arch. Yn y diwygiad, 20 mlynedd yn ol, derbyniodd adnewyddiad arbenig i'w grefydd. Yn ddiweddar ar ei oes y dewiswyd ef yn flaenor, ond cyflawnodd ei waith yn y swydd gydag ymroddiad. Bu farw mewn tawelwch, gan orphwys ar drefn fawr yr iachawdwriaeth, Ionawr 1886.

David Jones, Eldon Square.—Yn y Goleuad Tach; 14, 1874, cofnodwyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le wythnos union yn flaenorol. Yn y rhifyn hwnw rhoddwyd cryn lawer o'i hanes, a'r wythnos ganlynol ymddangosodd erthygl ar ei gymeriad. Crynhodeb o'r hyn a geir yno a roddir yma. Gŵr prin 60 mlwydd oed ydoedd pan y gorphenodd ei yrfa, ac yr oedd yr oll o'i fywyd wedi bod yn grefyddol. Ymunodd ei rieni â chrefydd tua'r amser y ganwyd ef. Derbyniwyd yntau yn aelod eglwysig yn 14 oed, ac ni fu ddiwrnod allan o'r eglwys. Dygwyd ef i fyny yn swn yr efengyl, a chafodd fanteision i ymgydnabyddu â phethau goreu crefydd. Ymddengys iddo er yn fore ymroddi nid yn unig i fod yn grefyddol, ond i wneuthur ei oreu gyda chrefydd. Fel dyn gweithgar, defnyddiol, ymroddedig i bob gweithred dda, anhawdd oedd cael ei ragorach. Heblaw ei waith yn ei swydd fel blaenor, mewn tri pheth yr oedd ei ddefnyddioldeb yn hysbys i bawb—yn yr Ysgol Sul, gyda dirwest, a chyda chaniadaeth y cysegr. Yr oedd yn yr Ysgol Sabbothol er yn ieuanc, ac yn athraw fel yr Apostol Paul, mawrhaodd ei swydd. Ni bu neb erioed yn fwy yn ei elfen, nac yn fwy llwyddianus gyda'r gwaith hwn.