Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/393

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ineb. Yr oedd yn berffaith hyddysg yn eu cynwys, ac ymollyngai i'w hadrodd y naill ar ol y llall yn hollol ddirybudd a dibarotoad. Yn y peth hwn yr oedd o flaen ei holl frodyr yn ei oes. Hunodd yntau gyda'r tadau Gorphenaf 13eg, 1884, yn 84 oed.

Hugh Jones.—Mab ydoedd ef i Edward Jones, un o flaenoriaid cyntaf Salem, ac a symudodd oddiyma i'r Dyffryn. Dygwyd ef felly i fyny ar aelwyd grefyddol, a chafodd ei hyfforddi yn y ffydd er yn ieuanc. Oherwydd rheolau caeth y Methodistiaid mewn cysylltiad a'r seithfed reol yn y Gyffes Ffydd, collodd ei aelodaeth am dymor, a theimlai hyd ddiwedd ei oes mai niwed a wnaeth yr hen bobl trwy gadw yn rhy dýn at y rheol. Modd bynag, daeth yn ddyn pwysig a defnyddiol iawn gyda chrefydd. Bu yn cario ymlaen fasnach ar ei gyfrifoldeb ei hun dros amser maith, a llwyddodd yn rhyfeddol yn ei amgylchiadau. Bu yn ddiwyd, a manwl, a chydwybodol yn ei orchwyl. Cyfrifid ef yn un o'r rhai mwyaf cywir a theg yn ei ymwneyd â'i gyd—ddynion o neb fu yn y byd erioed. Rhoddid yr ymddiried llwyraf iddo gan bawb o'i gymydogion. Dyn tawel, distaw, diymhongar, ydoedd bob amser. Gwnelai ei waith mewn distawrwydd, ac ni chai neb ei weled na'i glywed byth yn udganu o'i flaen. Gwrandawai yr efengyl fel pob peth arall a wnai o ddifrif, ac ysgrifenodd lawer o bregethau, gan ei fod wedi ymgydnabyddu a'r gelfyddyd o law fer.

Dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys Salem Medi 6, 1863, a dau frawd eraill o'r un eglwys gydag ef. Wedi hyn y daeth fwyaf i'r golwg gyda chrefydd. Yr oedd yn meddu cymwysderau arbenig i fod yn swyddog yn yr eglwys ar gyfrif ei synwyr cryf, ei bwyll, a'i gydwybodolrwydd. Perchid ef yn fawr gan ei frodyr crefyddol yn gystal ag yn ei gysylltiadau masnachol. Bu yn llenwi dwy swydd yn perthyn i'r Cyfarfod Misol, sef trysorydd Trysorfa y Gweinidogion, a thrysorydd yr arian perthynol i'r Ysgol Sabbotho!, ac nid oedd modd cael neb i lenwi: