Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/399

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ol yr oedd "Mr. Williams, Ivy House" yn air teuluaidd trwy yr holl Gyfundeb. "Yr oedd ei dy yn llety y fforddolion, ac yn swyddfa y Cyfundeb Methodistaidd. Nid anfynych, yn enwedig ar ddydd Sadwrn, y byddai y lle yn haner llawn o ddieithriaid, rhai yn bregethwyr, ac eraill yn flaenoriaid; rhai wedi dyfod i ymgynghori ynghylch gweithredoedd capeli, eraill ynghylch prynu tir i godi capel; eraill i holi am gyhoeddiad pregethwyr dieithr; eraill i drefnu cyfarfod pregethu; eraill heb un diben uwch ac heb broffesu diben uwch na chael ciniaw ar eu ffordd i rywle pellenig."

Bu Mr. Williams yn briod ddwywaith, ond ni bu iddo blant o gwbl. Ei ail wraig oedd Mrs. Jones, mam Mrs. Edward Griffith, Springfield. Yr oedd hithau hefyd yn gysegredig i'r achos mawr. Bu yn Ivy House am dros 20 mlynedd, ac yn dangos yr un caredigrwydd i grefydd yn ei holl gysylltiadau ag a wnaethid yno o'r blaen. Gorphenodd y boneddwr Cristionogol ei yrfa mewn tangnefedd, Tachwedd 2, 1874.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Robert Oliver Rees
ar Wicipedia

Robert Oliver Rees.—"Bendithiodd Duw ei eglwys yn Salem ag olyniaeth anrhydeddus o ddiaconiaid"—ydynt eiriau Mr. Rees ei hun, ac y mae yn anhawdd nodi yr un o blith y rhestr o ddechreuad Methodistiaeth yn y dref yn fwy galluog, gweithgar, a ffyddlon nag efe. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1817. Yr oedd ei rieni ar y pryd yn cadw tafarn, a'i dad yn aelod o eglwys y plwyf. Yn y dafarn uchod y sefydlwyd Cymdeithas y Cymreigyddion, yr hon a fu am flynyddau lawer yn un o'r cymdeithasau mwyaf llwyddianus yn Nghymru. Yr oedd hon yn ei gogoniant pan oedd Mr. R. O. Rees yn fachgen o 4 i 10 oed, a chafodd cymdeithas â'r beirdd a'r llenorion, a gyfarfyddent yn nhŷ ei rieni bob wythnos, ddylanwad mawr ar ei feddwl ieuanc, fel y bu dros ei holl oes yn gefnogol iawn i lenyddiaeth Gymreig, ac yn un o brif gyhoeddwyr Cymreig y genedl. Er mai i'r eglwys yr elai y tad, yr oedd tuedd y plant oll at fyned i'r capel. Y mae enwau Robert Oliver, a William ei frawd, a'u chwiorydd ar lyfrau capel Salem pan oeddynt yn ieuainc