Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/423

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr holl gylchoedd hyn. Ganwyd ef yn 1770, ac yn fuan ar ol priodi, sef tua diwedd 1796, ymunodd ef a'i briod Margaret Barrow, âg Eglwys Crist gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nolgellau. Yn fuan bwriodd ei goelbren i ofalu am yr eglwys fechan yn y Bontddu, er ei fod yn byw yn Tynant, yn agos i Lanelltyd (nid oedd eto achos wedi ei sefydlu yn y lle olaf). Tua'r pryd hwn cauodd y drws lle y derbynid pregethwyr yn y Bontddu, ac agorwyd drws Tynant iddynt, a bu yn llydan agored hyd nes y bu farw y ddau hen bererin a drigent yno. Bu Tynant yn gartref clyd i weinidogion y gair, ac yn fath o half—way house yr holl amser hyn. Byddai y gŵr, a'r wraig, a'r plant am y cyntaf yn croesawu y cenhadon hedd. Bendithiwyd y tŷ, fel tŷ Obededom, a byddai y penteulu yn dweyd yn fynych fod y bendithion tymhorol a ddaethai iddynt wedi dyfod oherwydd iddynt dderbyn pregethwyr yr efengyl i'w tŷ. Yr oedd Hugh Barrow yn gryf a chadarn mewn dau beth—yn yr athrawiaeth, ac yn erbyn pechod. Balchder oedd y pechod y curai arno fynychaf. Byddai yr ordd fawr i fyny yn wastad ganddo i daro hwn. Galwai Dafydd Davies, Cowarch, heibio un diwrnod ar ei ffordd o sasiwn y Bala. Nid oedd Hugh Barrow wedi gallu bod yno ei hun, ond holai yr hen bregethwr yn fanwl am y peth yma a'r peth arall, a gofynai, "Sut yr oedd hi yn y cyfarfod ordeinio?" "Yr oedd yno lawer o blant y diafol," ebe yr hen bregethwr, gan olygu wrth hyny y pregethwyr ieuainc oedd yn troi qu pi. Yr oedd H. B. hefyd yn gryf a chadarn yn yr athrawiaeth. Dywedai am Eiriadur Mr. Charles yn ngeiriau Dafydd Cadwaladr:—

"Y Dr. Morgan, a'r hen Salsbri
Ddaeth a'r trysor goreu i ni;
Ac ar eu hol ni chafodd Cymru
Gyffelyb i'th Eiriadur di."

Bu yr hen flaenor farw mewn parch a dylanwad anghyffredin Ebrill 25, 1852, a'i briod Medi 10 yr un flwyddyn.

Dafydd Owen. Mab teilwng ymhob ystyr i'r duwiol Owen