Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/454

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gorchymyn i Richard Lewis na roddai yr agoriad iddynt. Cynhaliwyd y cyfarfod gweddi y tro hwnw allan ar y "clwt glas" o flaen Capel Ellis. Ar ddiwedd y cyfarfod aethpwyd i ymgynghori pa beth a wneid rhagllaw, ac atebodd un Dafydd Robert fod ganddo ef dŷ yn feddiant iddo ei hun, y caent ddyfod yno i gadw y moddion. Felly y cytunwyd. Yna daeth yn arferiad i alw y lle wrth yr enw "Tŷ Dafydd." Peth anghyffredin yn yr oes hono oedd fod dyn cyffredin yn meddu tŷ o'i eiddo ei hun. Ond digwyddodd fel hyn yn rhagluniaethol, i'r drws gael ei agor yn yr ardal hon i'r efengyl. Yr oedd yr achos yn dechreu yma yn y wedd hon arno, o leiaf, yn 1792. Dywed y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, ei fod yn myned pan yn ddyn ieuanc, cyn dechreu pregethu, gyda chyfeillion eraill, y flwyddyn ddilynol i Tŷ Ddafydd, i gynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddiau. Ty bychan ydoedd, yr hwn, gyda llaw, sydd yn aros hyd heddyw. Y mae wedi ei adeiladu yn ngodreu y graig, ar fin y ffordd, yn union gyferbyn â Gorsaf bresenol Arthog. Hen ŵr dall oedd Dafydd Robert, yn cadw cwch i gludo nwyddau dros yr afon, a'i ferch bob amser gydag ef, yn rhwyfo y cwch. Yr oedd y gamlas y pryd hwnw yn cyraedd o'r afon i ymyl ei dy. Ac y mae traddodiad yn yr ardal fod yr hen wr wedi cludo Mr. Charles unwaith yn ei gwch i'w dŷ i bregethu, ac wedi rhwymo y cwch gyda rhaff wrth bost y gwely. Bu yr achos yn cael ei gynal yn y tŷ hwn o leiaf 15 mlynedd. Y mae yn cael ei adrodd yn lled gyffredin gan hen bobl hynaf yr ardal, y rhai a glywsant yr hanes gan eu tadau, nad oedd neb yn perthyn i'r eglwys hon a fedrai ddarllen. Eu cynllun oedd, gadael i Robert Richard, Fegla Fawr, yr hwn oedd yn ddarllenwr da, ddyfod i'r cyfarfod eglwysig i ddarllen yn y dechreu, yna elai allan o'r cyfarfod ar ol darllen, gan nad oedd yn proffesu crefydd.

Dyddiad gweithred capel cyntaf Sion ydyw Hydref 26, 1806. Prydles 60 mlynedd; ardreth flynyddol, deg swllt. Richard Lewis, Erwgoed, a fedrodd gael lle i adeiladu, trwy ryw gy-