Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aberystwyth, gan gychwyn i'w taith ddydd Gwener. Os amgen, cychwynent ddydd Iau ar eu traed dros y tir trwy Abermaw, a chytunent ag eraill i gyfarfod am naw o'r gloch foreu Sadwrn, wrth ryw ffynon yn Llangwyryfon." Wrth hyn, gwelir fod yn rhaid iddynt fyned ar draws y wlad o Abermaw i Aberdyfi. Erys rhyw gymaint o draddodiad, hefyd, rhwng y ddau le hyn, y byddent yn dychwelyd yr un ffordd, ac y byddent yn gorphwyso i fwyta eu tamaid bwyd wrth ffynon Pantgwyn, uwchlaw i Lanegryn, yn agos i "Wastad Meirionydd." Os oeddynt yn arfer myned, yn ol a blaen, y ffordd hon, y mae yn beth rhyfedd na buasent, fel llwynogod Samson, wedi rhoddi rhyw gymaint o'r wlad ar dân.

Y mae un ffaith am danynt yn teithio trwodd yn hollol sicr. Adroddir yr hanes yn Nrych yr Amseroedd, ac yr oedd yr awdwr, Robert Jones, Rhoslan, ymhlith y fintai ei hun. Fel hyn yr adrodda efe yr hanes:—"Yr oedd, ryw bryd, ryw nifer mawr o bobl, nid llai na phump a deugain, wedi myned mewn llestr i'r Deheudir, o Sir Gaernarfon, i'r cyfarfod mawr yn Llangeitho. Cyn dyfod yn ol, trodd y gwynt, fel y gorfu i ni ddyfod adref ar hyd y tir. Wrth weled y fath rifedi o honom, cawsom ein dirmygu a'n gwawdio i'r eithaf yn Aberdyfi; ac o'r braidd y gadawsant i ni ddyfod trwy dref Towyn heb ein herlid yn dra llidus. Erbyn dyfod i'r Abermaw, yr oedd hi yn dechreu nosi, ac yn dymestl fawr o wynt a gwlaw. Lled gynhyrfus oedd y pentref ar ein dyfodiad yno; ond bu llawer o'r trigolion mor dirion a lletya cynifer ag a arosasant yno. Aethai rhai ymlaen i ymofyn llety yn y wlad. Felly cafodd pawb y ffafr o le i orphwys y noson hono. Yr oedd yno un wraig, yr hon, pan ofynwyd iddi am le i letya, a safodd ar y drws, ac a ddywedodd yn haerllug: Na chewch yma gymaint a dafn o ddwfr; nid wyf yn ameu na roddech fy nhŷ ar dân cyn y boreu, pe gollyngwn chwi i mewn.' Ond buan y cyrhaeddodd llaw Duw hi am ei thraha a'i chreulondeb, canys cyn y boreu