Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/516

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pryd yr adeiladwyd y capel. Am y blynyddoedd cyntaf, Mr. Edward Griffith, Springfield, trwy benodiad, oedd yn gofalu am y moddion Saesneg, hyd yr amser y dewiswyd Dr. Edward Jones yn swyddog. Bu Mr. W. Jones, Bryn House, hefyd, am rai blynyddoedd yn gweithredu fel trysorydd. Yn ystod misoedd yr haf yn unig y cynhelid y moddion, er cyfarfod â dyfodiad dieithriaid i'r dref. Ond canfyddwyd ymhen ychydig fod y llafur a'r draul yn myned i raddau yn ofer wrth roddi y gwasanaeth heibio am y misoedd eraill, a chan fod amryw deuluoedd Seisnig yn byw yn y dref, ac yn dilyn y gwasanaeth, penderfynwyd cario'r achos ymlaen yn gyson trwy'r flwyddyn. Esgorodd y bwriad hwn yn fuan ar y penderfyniad o gael capel. Dr. Edward Jones, U.H., yr hwn oedd er's ychydig, fel y erybwyllwyd, wedi ei ddewis yn ddiacon yn y fam eglwys, Salem, a'r unig ddiacon mewn cysylltiad a'r moddion Saesneg ar y pryd, a brynodd dir am £121, ac aeth y personau canlynol yn gyfrifol am y swm:—Parch. R. Roberts, Dr. Jones, Mri. E. Griffith, U.H., a Morris Jones, U.H. Yn agos i ddechreu 1877, ceir a ganlyn ymhlith penderfyniadau cyfeisteddfod yr Achosion Saesneg perthynol i'r rhan hon o'r sir, "Ein bod yn llawenhau wrth ddeall am sefyllfa yr achos Saesneg yn Nolgellau, ac yn dymuno yn galonog eu cefnogi i fyned ymlaen yn y dyfodol, a chynal moddion gras yn yr iaith Saesneg yn gyson ar hyd y flwyddyn." Ac yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Croesor, Mai 7fed a'r 8fed, 1877, y mae y penderfyniad canlynol:"Rhoddwyd caniatad i adeiladu capel Saesneg yn Nolgellau, cymeradwywyd y cynlluniau a ddangoswyd, a phenodwyd nifer o bersonau yn ymddiriedolwyr." Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu ar unwaith, a gosodwyd y contract am £620. Y cynllunydd ydoedd Mr. Humphrey Jones, Tanybryn, Dolgellau. Gwnaed y gweithredoedd yn rhad ac am ddim gan Messrs. William Griffith & Sons, cyfreithwyr, Dolgellau, y rhai ar amryw achlysuron a ddangosasant garedigrwydd tuag at y Cyfundeb.