Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/517

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y Public Rooms y ffurfiwyd yr eglwys, Medi 23ain, 1877. Yr oedd yn bresenol dros y Cyfarfod Misol, y Parchn. R. Roberts, a R. H. Morgan, M.A., a'r blaenoriaid canlynol o Salem Mri. Griffith Davies, Hugh Jones, E. Griffith, J. M. Jones, Richard Mills, Humphrey Jones, a John Williams. Ymunodd a'r eglwys o gyflawn aelodau 42. Nifer yr eglwys yn awr ydyw 60. Tua'r un adeg y sefydlwyd yr Ysgol Sabbothol. Y nifer a ymunodd â hi oedd 25. Yr oedd ei nifer yr ail Sabbath of Mehefin y flwyddyn hon (1888) yn 85. Nid yw cynydd yr aelodau eglwysig yn ymddangos yn'fawr, oherwydd fod yr achos wedi bod yn agored i lawer o gyfnewidiadau. Er ei sefydliad, collwyd lliaws trwy symudiadau, gan fod teuluoedd Seisnig yn myned a dyfod gryn lawer. Agorwyd y capel Hydref 2il a'r 3ydd, 1877. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Joseph Jones, Menai Bridge, ysgrifenydd yr Achosion Saesneg, ac Owen Edwards, B.A, Llanelli. Gwnaethpwyd ymdrechion canmoladwy o dro i dro i dalu dyled y capel, ac eto, yn ol yr ystadegau diweddaf, y mae £325 o'r ddyled yn aros. Mae y capel wedi ei gofrestru i weinyddu priodasau ynddo, ac hefyd wedi ei yswirio yn Nghymdeithas Yswiriol y Cyfundeb. Rhoddwyd anrhegion gwerthfawr at wasanaeth y capel hwn o bryd i bryd. Chwefror, 1878, anrhegwyd yr eglwys â llestri cymundeb hardd (best electro plated) gan yr henadur parchus, Mr. Griffith Davies; hefyd ag electro plated christening basin, gan Mrs. Jones, Plasucha, ar yr achlysur o fedyddio merch fechan, Medi 26ain, 1878. Y cyntaf a fedyddiwyd yn y capel oedd baban Mr. a Mrs. Davies, grocer —anrhegwyd y rhieni â Beibl hardd er cof am yr amgylchiad. Cymerodd y dewisiad cyntaf o flaenoriaid yr eglwys le Ionawr 29ain, 1878. Yr oedd yn bresenol dros y Cyfarfod Misol, y Parch. J. Davies, Bontddu, a Mr. Ed. Griffith, U.H., Springfield. Dewiswyd yn rheolaidd, Mri. Owen Rees, Morris. Jones, U.H., Plasucha'; Wm. Williams, Swyddfa'r Goleuad, ac O. O. Roberts, Board School. Y tri olaf, a Dr. Jones, ydynt