Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/518

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y blaenoriaid presenol. Ebrill y 12fed, yr un flwyddyn, rhoddodd yr eglwys alwad unfrydol i'r Parch. O. T. Williams, Croesor. Bu ef yn weinidog ar yr eglwys am bum' mlynedd. Ar ol ei ymadawiad, rhoddwyd galwad unfrydol drachefn i'r Parch. T. J. Thomas, o'r Twrgwyn, Sir Aberteifi, yr hwn oedd ar y pryd yn Athrofa Trefecca. Cymerwyd llais yr eglwys dros y Cyfarfod Misol, Chwefror 14eg, 1884, gan y Parch. J. Davies, Bontddu, a Mr. H. Jones, Tanybryn. Y mae Mr. Thomas yn aros yn weinidog llwyddianus yr eglwys hyd heddyw. Y cyntaf a gollwyd o'r eglwys trwy farwolaeth oedd John Penaluna, yn 1878. Tachwedd 28ain, 1880, bu farw Mrs. Jones, priod Mr. Morris Jones, U.H., Plasucha, yn 25 oed. Yr oedd hi yn ferch i'r diweddar Mr. Hugh Jones, un o ddiaconiaid parchus Salem, ac yn wraig rinweddol a ffyddlon i achos crefydd. Mae yr organ yn y capel hwn yr hon sydd yn werth oddeutu 200p.—yn rhodd gan ei phriod, er serchus gof am dani.

Owen Rees a gymerwyd oddiwrth ei waith at ei wobr, Mehefin 9fed, 1887. Efe oedd y swyddog eglwysig cyntaf a gollwyd o'r capel Saesneg. Teimlir colled ar ei ol yn y dref yn gystal â'r eglwys. Byddai bob amser yn barod ac ewyllysgar i roddi cynorthwy lle byddai eisiau y cyfryw. Er mai byr y parhaodd ei gystudd olaf, eto dioddefodd lawer yn ystod blynyddau diweddaf ei oes, a bu raid iddo farw cyn cael credit gan ei gydnabod ei fod wedi dioddef cymaint. Meddai ar lawer o gymhwysder i fod yn swyddog mewn eglwys Saesneg; ei gydnabyddiaeth helaeth o'r iaith, a'i gydymdeimlad trwyadl â'r Achosion Saesneg, oeddynt gymwysderau arbenig ynddo. Er hyny, parhai ei serch yn fawr at yr achosion a'r eglwysi Cymreig. Ceid ef bob amser yn glymedig iawn wrth bawb a phob achos er llesoli ei gydgenedl. Yr oedd yn dra hyddysg yn holl hanes ei dref enedigol, ac ysgrifenodd lawer ar wahanol bethau. Meddai allu i ddyfod fwy o amlygrwydd nag y daeth. Bu farw yn gymharol ieuanc, dim ond 59.