Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/521

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yn byw yn un darn o'r hen dy lle dechreuodd yr achos. Drachefn, ymunodd Hugh Roberts, o'r Rhedyn Cochion, â hi; yr oedd ef yn ysgolhaig da, a pharhaodd yn ffyddlon i'r ysgol. Robert Griffith, o'r Bryn Blew, hefyd, oedd ymhlith y ffyddloniaid cyntaf. Ar ol hyn, byddai Mr. Charles yn dyfod yma yn bur aml, ac yn dweyd yn gynes am yr ysgol, ac yn anog pawb i ddyfod iddi. Ymhen blynyddau ar ol hyn, bu Richard Roberts (Parch. R. Roberts, Dolgellau), Hafodfedw, yn dyfod yma am lawer o amser. Byddai yn Llanelltyd y boreu, Buarthyrê am ddau, a'r Llan y nos. Nos Sabbath y byddai yr ysgol yn Llanfachreth y blynyddau hyny. Gwneid casgliad yn yr ysgol at gael canwyllau, a byddai Sarah Pugh, Cwmeisian, yn anrhegu yr ysgol bob blwyddyn â phwys o ganwyllau." Dywed yr un gŵr, hefyd, yn yr un ysgrif, ddarfod i'r erledigaeth fawr a brofwyd oddiwrth y boneddwr a breswyliai yn yr ardal wanychu yr ysgol yn fawr, nes ar un adeg ei dwyn yn llai o rif nag ugain. Ond, bob yn dipyn, crefydd a orfyddodd; yn ol y daeth deiliaid yr ysgol, a thywalltodd yr Arglwydd ei Ysbryd ar ei bobl. Un nos Sul, torodd allan yn orfoledd wrth i Lewis William holi y bedwaredd benod o'r Hyfforddwr. Pan ofynodd y cwestiwn, Pa beth sydd i'w ddeall wrth fod ei ben (y sarff) yn cael ei ysigo, ac yr adroddwyd yr adnod fel atebiad, 'I hyn yr ymddangosodd' Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol,' dyna floedd fawr nes oedd y cedrwydd cryfa yn syrthio i'r llawr."

Y blynyddoedd cyntaf, byddai yr Ysgol Sul yn cael ei rhoddi i fyny mewn llawer man o ddiffyg zel a chrediniaeth yn yr angenrheidrwydd am dani. Ac ni ystyrid ei rhoddi i fyny yn beth hynod. Ceir engraifft o hyn yn y Bontddu, ymhen deuddeng mlynedd ar ol ei sefydliad yno. Awst 20fed, 1815, cynhaliwyd cyfarfod athrawon yn y lle, "I ystyried pa un ai cadw yr ysgol yn hwy a wneid, ai ei diddymu o fod." Yr oedd L. William yn bresenol, ac efe a ysgrifenodd yr hanes am y cyfarfod. Penderfynwyd, modd bynag, iddi gael ei